Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Dyddiad: 6 Ebrill 1915

Trawsysgrif:

STORI CERDDOR
Ar Fwrdd y "Falaba"
Chwifio Baner Prydain

Ymysg y rhai oedd ar fwrdd y Falaba, yr oedd Mr. Arthur H. Killip, yr hwn a wasanaethai fel cerddor arni, a'r hwn oedd ym myned ar fordaith er budd ei iechyd.

Dyma fel yr adroddodd ef yr hanes wrth ohebydd:—

"Brydnawn Sul yr oeddym yn Sianel Bristol tua haner cant neu driugain milltir o Land's End, a'r adeg hono yr oedd popeth yn iawn. Tua milltir ymlaen pan oeddym yn tynu allan ein cerddoriaeth gogyfer a'r pryd bwyd gwelem rhywbeth mawr llwyd yn y dwfr, ond ni wyddem beth ydoedd. Gorweddai o'r tu ol i long bysgota, ac oherwydd ei safle nid oeddym yn abl i ddyweud beth ydoedd. Yn sydyn dechreuodd agosau, gan deithio yn ol deunaw knot yr awr. Daeth at ochr ein llong ond ni wyddem hyny ar y cychwyn.

"Yr oedd y pryd hwnw yn chwifio y faner wen Brydeinig, a thybiem fod popeth yn iawn. Ymhen ychydig gwelwyd y faner Germanaidd yn cael ei chodi, ac ymhen rhai eiliadau cododd faner arall Germanaidd, ac yna gwyddem ei bod yn gwneud am danom. Fodd bynag nid oedd cyffro ar y bwrdd er fod yno bryder. Aeth y bad tanforawl i'r ochr arall i'n llong a danghosodd oleu glas gan orchymyn i ni aros.

Arosasom ar waith, a gorchymynwyd i ni fyned i'r cychod. Clywais Capten Davies yn galw arnom i fyned i'r cychod. Yn anffortunus torrodd un o'r cychod fel yr oedd yn cael ei ollwng ac anafwyd rhai o'r bobl oedd yn stryglo yn y dwfr islaw. Meddianodd y merched eu hunain yn dda iawn. Yn y cyfamser cefais fywyd-wregys ac edrychais oddiamgylch i weled a oedd cwch yn ymyl fel y gallwn fyned iddo.

"Wedi gweled dau neu dri o honynt yn llawn gwelais un cwch a lle ynddo. Neidiais oddiar y bwrdd iddo, ac wedi bod oddi amgylch am beth amser dodwyd ni yn y llong bysgota.

"Cynorthwyodd y teithwyr i rwyfo y cwch ymha un yr oeddwn i, a buom ynddo am tua dwyawr a chodwyd ni i'r Eileen Eruma, yr hon a ddigwyddodd ddod ymlaen. Dyma'r amser y cefais ddihangfa gyfyng. Yr oedd fy nwylaw yn flin ar ol rhwyf fel pan y cydiais yn y rel yr oedd fy llaw mor farw fel y disgynais i'r dwfr. Nis gallaif nofio, ond gwnes ymdrech i afael ymhen y rhaff, a thynwyd fi yn ol ar y bwrdd.

"Pan oeddym gryn bellter oddiwrth y Falaba gallem weled y bad-tanforawl, a chlywsom ffrwydriad, yna gwelsom golofn o fwg a dwfr yn codi yn uwch na'r cyrn. Aeth y Falaba ar ei hochr a dechreuodd suddo yn raddol. Yr oeddym yn bell oddiwrthi pan suddodd.["] Wedi aros am enyd i adenill ei nerth dywedodd Mr. Killip:—

"Un o'r personau cyntaf a welais ar fwrdd y cwch pysgota oedd Capten Davies. Yr oedd yn lluddedig iawn a bu farw ymhen ychydig ar ol ei ddwyn ar ei bwrdd. Mae'n rhaid fod rhywbeth wedi effeithio'n drwm arno, a dywedwyd wrthyf gan rai oedd ar y bwrdd ei fod wedi ei anafu drwy gael ei daflu yn erbyn rhywbeth.

"Yr oedd yr holl ddinistr drosodd ymhen deng munud o amser" meddai. "Symudwyd ni oddiar y cwch i'r Liffey (destroyer) a dygwyd ni i Milford, a danghoswyd y caredigrwydd mwyaf tuag atom."

BACHGEN O BLAENAU FFESTINIOG AR FWRDD Y FALABA.

Ar fwrdod y Falaba gydlag eraill yr oedd Mr. Evan Rogers Owen, Ffestiniog, Llys Dorvil gynt, a brawd y Mri. W. Lloyd Owen, London City and Midland Bank; Major Owen, 7th Battalion Royal Welsh Fusiliers; Mr John Owen, yn awr yn Canada, a'i unig chwaer, Miss K. W. Roberts, B.A., Llundain. Cafodd yntau ddyfrllyd fedd ar ei diaith yn ol i Nigeria, West Affrica, lle y daliai swydd gyfrifol dan y Llywodraeth. Ni bu ei radlonach dan gronglwyd neb erioed. Meddyliai yn dda am bawb ond am dano'i hunan. Cofiwn ei wen a gwasgiad ei law y tro olaf yn hir. Mae'r syniad iddo syrthio yn ei febyd yn aberth i gynddaredd Germani yn gwaedu ein calonau ac yn d'rysu ein meddyliau. Arafed y don uwch ei orweddfan, a chaned yr awel alareb ei hen ardal wrth fyn'd heibio.

SUDDO AGERLONG FAWR
CWERTHIN AM BEN RHAI YN BODDI.

Ddydd Sul cafodd yr agerlong Falaba (Elder, Dempster) ei suddo gan torpedo yrwyd o fad tanforawl Almaenaidd. Cymerodd hyn le 50 milldr y tu allan i Milford Haven. Hyd a wyddis, achubwyd 145 allan o 242 oedd ar y bwrdd. Achubwyd y Capten Davis, Newsham Park, Lerpwl, ond bu farw mewn canlyniad i niweidiau a dderbyniodd. Ymysg y rhai fuont feirw y mae Thomas Evans, stiward.

Gadawodd yr agerlong (a gariai 4800 tunell) Lerpwl, ddydd Sadwrn, gyda 147 o deithwyr a 96 o griw.

Dywedir i amryw o'r dwylaw aberthu eu bywydau er achub y teitihwyr.

Achubwyd 145 allan o'r 147 teithwyr, o ganlyniad bu y golled ymysg y criw.

Nos Sul daeth llestr Eileen Mary, a nifer o deithwyr ac wyth o gyrff dwylaw yr agerlong Falaba i Milford Haven.

Gadawodd y Falaba Lerpwl dydd Sadwrn, a phan oddeutu 50 milldir o Milford cododd fad tanforawl Almaenaidd o'r dwfr, a rhoddodd tri chwibaniad, fel arwydd i'r agerlong ollwng eu cychod.

Cyn i'r cychod gael eu datod anfonodd y bad tanforawl torpedo i'r agerlong, a suddodd bron yn uniongyrchol. Llanwyd y tri cwch a dwfr. Taflwyd y bobl oedd ynddynt i'r dwfr.

Gwnaeth y bad tanforawl gylch camgylch y cychod, gan chwerthin am ben y bobl yn ymdrechu yn y dwfr, ac heb wneuthur yr ymgais lleiaf i'w hachub, hwybasant ymaith.

Yr oedd y llestr Eileen Mary yn amheu fod cwch tanforawl o gwmpas a hadwodd yn agos i'r Falaba. Trwy hyn gallodd godi 140 o bersonau o'r dwfr a glaniodd 110 ohonynt yn Milford.

Bu dwy o ferched perthynol i'r criw foddi, ac achubwyd chwe' merch arall. Bu yr Is-gadben Blakley a'r Corporal Wallace ((R.A.M.C.) foddi. Achubwyd milwyr eraill oedd ar y bwrdd.

Ffynhonnell:
"STORI CERDDOR: Ar Fwrdd y 'Falaba'." Yr Herald Cymraeg. 6 Apr. 1915. 6.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw