Neidio i'r prif gynnwys
arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibalogopdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
People's Collection Wales Logo A vector graphics of the official People's Collection Wales Logo
  • English
  • Mewngofnodi
  • Cofrestru
  • Amdanom NiAmdan CYWC
  • Rhannugolygu a chreu
  • Y Casgliadpori a ffiltro
  • Mapiaucyfoes a hen
  • Cymorth
  • Addysgadnoddau dysgu
Hafan / Penrhyn Quarry
Tweet
 

Chwarel y Penrhyn

Dechreuwyd y diwydiant llechi ar raddfa fawr yn Chwarel y Penrhyn yn 1770 dan berchenogaeth Richard Pennant, a oedd wedi etifeddu ystâd y Penrhyn drwy ei wraig, Ann Warburton. Dros y ganrif nesaf, datblygodd i fod yn chwarel lechi fwya'r byd, gan gyflogi tua 3,000 o bobl ac roedd ei phrif geudwll bron i filltir o hyd. Gosodwyd rheilffordd o'r chwarel i Borth Penrhyn ar gyrion Bangor i hwyluso cludo'r llechi a oedd yn cael eu hallforio i bedwar ban byd. Oherwydd eu hansawdd uchel ac amrywiaeth eu lliwiau, roedd llechi Cymreig yn cael eu hystyried y deunydd toi gorau a oedd ar gael. Defnyddiwyd y llechfaen hefyd fel deunydd ffensio ac adeiladu a cherrig llorio, ac i wneud dodrefn cadarn a cherrig beddau addurnedig.
Roedd yr amodau gwaith yn y chwareli'n eithriadol beryglus gan fod y chwarelwyr yn hongian ar raffau ar wyneb y graig wrth ei thyllu ac yn defnyddio ffrwydron i ryddhau talpiau mawr o gerrig. Hyd yn oed os na fyddent yn colli aelodau neu hyd yn oed eu bywydau, roedd llawer o'r chwarelwyr yn datblygu clefyd y llwch (silicosis), wrth i ronynnau bychain o lwch o hollti llechi aros yn eu hysgyfaint.
Oherwydd yr amodau gwaith caled a'r cyflogau eithriadol isel a delid i'r chwarelwyr, gwelodd Chwarel y Penrhyn nifer o streiciau at ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gan barhau o 1900 tan 1903, y Streic Fawr oedd yr anghydfod diwydiannol hiraf yn hanes Prydain. Amcangyfrifir iddi effeithio ar bron i chwarter poblogaeth Gogledd Cymru. Wedi tair blynedd o wrthsefyll, daeth adnoddau'r chwarelwyr i ben ac fe'u gorfodwyd i ddychwelyd i'r gwaith ar gyflogau llawer is. Yn sgîl y streic, gwelwyd gostyngiad sylweddol yn y galw am lechi Gogledd Cymru. Ers hynny mae cynhyrchu llechi wedi edwino'n raddol.
Drwy gydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd maint enfawr Chwarel y Penrhyn a'i miloedd gweithwyr yn tynnu nifer fawr o dwristiaid yno. Roedd cael mynd am reid mewn wagenni llechi agored yn rhuthro i lawr yr incleiniau ar gyflymder mawr yn dipyn o hwyl a sbri i ymwelwyr Fictoraidd. Erbyn heddiw diflannodd y wagenni agored, ond mae twristiaid yn dal i chwyrlio dros y ceudwll agored yn sownd wrth wifrau'r atyniad diweddaraf.

Mae 8 eitem yn y casgliad

 Penrhyn slate quarries, near Bangor

Penrhyn slate quarries, near Bangor

  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item
  • 607
  • mewngofnodi
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Libr...

 Penrhyn Slate Quarries, near Bangor

Penrhyn Slate Quarries, near Bangor

  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item
  • 701
  • mewngofnodi
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Libr...

The Penrhyn Slate Quarries

The Penrhyn Slate Quarries

  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item
  • 866
  • mewngofnodi
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Libr...

Penrhyn slate quarry

Penrhyn slate quarry

  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item
  • 558
  • mewngofnodi
  • Amgueddfa Cymru - National Museum Wales

Manual slate dressing at Penrhyn quarry

Manual slate dressing at Penrhyn quarry

  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item
  • 1,957
  • mewngofnodi
  • Royal Commission on the Ancient and Historical M...

Cerdyn a gyhoeddwyd yn ystod Streic Fawr...

Cerdyn a gyhoeddwyd yn ystod Streic Fawr...

  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item
  • 5,602
  • mewngofnodi
  • Casglu'r Tlysau / Gathering The Jewels

Cynauaf Damwain: sef Rhestr o'r Damweiniau yn...

Cynauaf Damwain: sef Rhestr o'r Damweiniau yn...

  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item
  • 2,804
  • mewngofnodi
  • Casglu'r Tlysau / Gathering The Jewels

Cân - 'Punt y Gynffon' - a gyhoeddwyd yn ystod...

Cân - 'Punt y Gynffon' - a gyhoeddwyd yn ystod...

  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item
  • 2,150
  • mewngofnodi
  • Casglu'r Tlysau / Gathering The Jewels

Uwchlwythwyd gan

Darlun Teithwyr Ewropeaidd i Gymru, 1750-2010 // European Travellers to Wales, 1750-2010

Teithwyr Ewropeaidd i Gymru, 1750-2010 // Europe...

Dyddiad ymuno:
04/10/2017

Collection created: 11/10/2017

  • 1211  wedi gweld yr eitem hon
  • 0  Wedi hoffi

Eitemau eraill efo tagiau tebyg:

  • Cerrig
  • Llechi a Phlwm
  • Golygfeydd tirluniau
  • Safleoedd, Henebion a Strwythurau
  • Amgylchedd Ffisegol Arall
  • penrhyn quarry
  • slate

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw

Twitter Logo The Twitter Logo in vector format
RT @ysgolygymraeg: Mawrth 16, 2021, 12:30 - 'Y Gymraeg a’r Pandemig: Ail-lunio’r Dyfodol?' @prifysgolCdydd mewn trafodaeth â… Mabli… https://t.co/jdiyINpfVv — 10 awr 59 mun yn ôl
mwy

Dilynwch ni ar:

  • Twitter Logo The Twitter Logo in vector format
  • Facebook Logo The Facebook Logo in vector format

Mwy amdanom ni, ein gwaith gyda grwpiau cymunedol, gwasanaethau a hyfforddiant

  • Hygyrchedd
  • Hawlfraint
  • Preifatrwydd
  • Map o'r Safle
  • Telerau
Noddir gan Lywodraeth Cymru | Sponsored by Welsh Government The Welsh Government Logo in vector format

01970 632 500 Ebost