arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharetwitterwelsh-government

Disgrifiad

Cerdyn printiedig â'r geiriau 'Nid oes Bradwr yn y tŷ hwn'. Gosodwyd y cardiau hyn yn ffenestri'r streicwyr yn ystod Streic Fawr Chwarel y Penrhyn, 1900-03, gan rannu'r gymuned yn ddwy garfan yn ystod y streic. Arhosodd y mwyafrif o'r cardiau yn y ffenestri am dros ddwy flynedd - pan dynnwyd cerdyn o'r ffenestr roedd yn arwydd fod chwarelwr arall wedi torri'r streic.

Seiliedig ar ddisgrifiad yn Llawlyfr Amgueddfa Lechi Cymru (Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 2002), tudalen 43. Awdur y testun yw Elin ap Hywel.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw