Streic y Penrhyn, 1900-1903
Eitemau yn y stori hon:
Anghydfod hir-dymor
Ar 22 Tachwedd 1900 dechreuodd yr hyn fyddai'r anghydfod hiraf yn hanes diwydiannol Prydain – streic tair blynedd o hyd gan weithwyr Chwarel y Penrhyn, Bethesda. Ar y diwrnod hwnnw, cerddodd tua 2,800 o ddynion allan o'r chwarel. Ni fyddai'r rhan fwyaf ohonynt yn dychwelyd am dair blynedd, ac erbyn hynny roeddent wedi'u hefryddu gan gyfoeth a grym y perchennog, Arglwydd Penrhyn.
Er ei fod yn arferol disgrifio'r anghydfod yn streic, cload allan ydoedd mewn gwirionedd. Wedi iddynt gerdded allan yn llu, cafodd y dynion eu gwahardd rhag mynd i mewn i'r chwarel.
Roedd yr anghydfod yn uchafbwynt sawl blwyddyn o anfodlonrwydd ac aflonyddwch yn y diwydiant chwarela. Y prif bryder oedd mater y 'fargen'. Roedd y system bargen yn diogelu enillion y chwarelwyr rhag yr anawsterau o weithio gyda chraig o ansawdd newidiol; roedd y system yn caniatáu i'r chwarelwyr weithio fel ymgymerwyr yn hytrach na gweithwyr cyflogedig. Roedd anghydfodau wedi'u seilio ar fargen 1874, a arweiniodd at ffurfio Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru (NWQU), ac eto ym 1896. Roedd undebaeth yn y diwydiant yn gymharol wan; roedd y NWQU yn aml yn cael trafferth recriwtio mwy na thraean y gweithlu. Ond roedd pennaeth yr Undeb, W. J. Parry, yn ddyn mawr ei barch ac yn arweinydd pwysig.
Gwahaniaethau chwerw
Roedd perchennog y chwarel, Arglwydd Penrhyn, a'i gynrychiolydd E. A. Young, wedi bod yn ymladd undeboli'u gweithlu ers blynyddoedd. Roeddent yn benderfynol o dorri traddodiad y 'fargen' oherwydd yr ymreolaeth yr oedd yn caniatáu i'r gweithwyr. Roedd y ddau'n gwrthwynebu cryfder undebau'n chwyrn a'r hawl hon i undeb effeithiol a ddaeth yn asgwrn cynnen yn ystod y streic. Roedd yn anghydfod chwerw, gyda'r gwahaniaethau rhwng Penrhyn a'i weithlu'n dod i'r amlwg; y landlord, cyfoethog, Anglicanaidd, Saesneg ei iaith yn erbyn y chwarelwyr Anghydffurfiol, uniaith Cymraeg gan fwyaf.
'Nid oes bradwr yn y tŷ hwn'
Dyma gefndir y sefyllfa pan gerddodd gweithwyr Chwarel y Penrhyn allan ym mis Tachwedd 1900. Erbyn 1902, roedd 700 wedi dychwelyd i'r gwaith, ac roedd tua 1300 wedi gadael yr ardal i chwilio am waith, y rhan fwyaf ohonynt i feysydd glo de Cymru. Roedd tyndrâu rhwng y gymuned a'r torwyr streic, ac roedd cartrefi'r gweithwyr a oedd ar streic yn arddangos cardiau gyda'r geiriau ‘Nid oes Bradwr yn y Tŷ Hwn’ yn eu ffenestr. Yn araf deg, gorfodwyd y chwarelwyr yn ôl i'r gwaith er mwyn iddynt fedru bwydo'u teuluoedd a thalu'u rhent. Er y symiau mawr o arian a gasglwyd gan weithluoedd cydymdeimladol ledled Prydain, roedd y pwysedd o fod allan o waith yn faich ar y chwarelwyr a dechreuwyd tynnu'r cardiau o'r ffenestri. Gwaethygodd teimladau yn y gymuned a surodd yr awyrgylch yn ystod y misoedd olaf wrth iddo ddod yn fwy amlwg na fyddai Arglwydd Penrhyn yn cael ei drechu.
Roedd y streic yn ergyd trwm i'r diwydiant llechi. Roedd gweithlu'r Penrhyn wedi crebachu i 1800 erbyn 1907 ac roedd gwasgiad yn y diwydiant adeiladu'n golygu cwtogi pellach yn y diwydiant llechi.