Chwarel y Penrhyn, gan W. J. Roberts
Mae’r casgliad hwn yn cynnwys copïau digidol o’r ddwy gyfrol o lawysgrif gynhwysfawr ar hanes a bywyd gwaith Chwarel y Penrhyn, Bethesda.
Cynhwysir yma hefyd drawsgrifiad llawn gan fab yr awdur, Dafydd Roberts.
Bu W. J. Roberts yn gweithio yn y chwarel lechi rhwng 1920 a 1954 (ac eithrio blynyddoedd y rhyfel 1939-45), a chofnododd ei atgofion mewn dwy gyfrol fawr o lawysgrif, gan gynnwys adroddiadau yn Gymraeg a Saesneg, yn ogystal ag amryw frasluniau sy'n dangos peiriannau, prosesau ac adeiladau'r chwarel.