Ysbyty Castell Hensol: Clywedig Y Cyn Guddiedig
Roedd Ysbyty Castell Hensol ar agor rhwng 1930 a 2003. Adeiladwyd yr ysbyty i ddarpau cartref i bobl ag anableddau dysgu yn unol â Deddf Gallu Meddyliol 1913. Mae’r ysybyty wedi’i leoli ym Mro Morgannwg. Roedd y cleifion yn byw ar un o ddeuddeg ward ac, yn ystod cyfnod prysuraf yr ysbyty, roedd dros 800 o gleifion yn byw yno, gyda ystod o anghenion cynorthwyol. Bellach, mae’r wardiau yn rhandai preifat a’r castell yn lleoliad cynnal priodasau. Roedd rhyddid gan gleifion i grwydro’r safle eang, a oedd yn cynnwys llyn a fferm lle byddai rhai o’r cleifion yn gweithio. Roedd yr ysbyty yn ynysig a datblygodd nifer o drigoloion lleol safbwyntiau negyddol am yr ysbyty. Mae’r safle’n eiconig i nifer o’r rheiny a oedd un ai’n byw yno neu’n gweithio yno ac mae’n ysgogi atgofion amlwg ymysg y rheiny sy’n gallu cofio’r ysbyty.