Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llun o ran o Arddangosfa Clywed y Cyn-Cuddiedig yn Amgueddfa Abertawe am Ysbyty Castell Hensol. Yn y llun hwn, gallwch weld y rhan o'r arddangosfa lle'r ail-grewyd yr ystafell ddydd, gan ddangos y rhan o'r ysbytai lle y byddai'r preswylwyr yn treulio'u hamser yn ystod y diwrnodau pan nad oeddent y tu allan i'r ysbytai. I breswylwyr a ystyriwyd yn rhai 'gradd isel' (llai abl), byddent yn cael eu cau yn yr ystafelloedd hyn gan na fyddent yn cael yr un rhyddid â phreswylwyr 'gradd uchel', yr oeddent yn aml yn cael caniatâd i grwydro o gwmpas safle'r ysbyty neu i adael y safle ar deithiau. Byddai'r gwaith celf a fyddai'n cael ei hongian yn yr ystafelloedd hyn yn cael ei hongian yn uwch nag y byddai mewn cartrefi cyffredin bob amser, er mwyn atal y preswylwyr rhag peri niwed i'r gwaith celf, neu ei ddefnyddio er mwyn gwneud niwed i eraill. Byddai'r dodrefn mewn ystafelloedd dydd yn syml ac yn ddirodres. Ni fyddai gan breswylwyr fawr iawn o reolaeth dros y gweithgareddau a'r adloniant yn yr ystafelloedd dydd – megis y sianelau teledu neu radio; y staff yn yr ysbytai fyddai'n rheoli'r rhain.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw