Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llun o ran o Arddangosfa Clywed y Cyn-Cuddiedig yn Amgueddfa Abertawe am Ysbyty Castell Hensol. Yn y llun hwn, mae modd i chi weld y rheseli a atgynhyrchwyd, lle y byddai dillad y preswylwyr a'r cyflenwadau bwyd wedi cael eu storio. Yn aml, roedd systemau diffygiol yn yr ysbytai yn golygu bod gan breswylwyr ddillad cymunol ac ychydig iawn o eiddo personol (neu ddim o gwbl) yn ystod y blynyddoedd cynharach. Wrth i'r oes symud yn ei blaen ac wrth i agweddau newid, dechreuodd y staff rymuso preswylwyr i brynu a labelu eu dillad a'u heiddo eu hunain er mwyn rhoi ymdeimlad iddynt o'u hunigolrwydd eu hunain.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw