Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llun o ran o Arddangosfa Clywed y Cyn-Cuddiedig yn Amgueddfa Abertawe am Ysbyty Castell Hensol. Yn y llun hwn, mae modd i chi weld ymwelydd yn ymgysylltu â chasyn o arteffactau a ddangosir. Yn y casyn, gallwch weld llyfr lloffion o ffotograffau o Hensol a rhywfaint o waith brodwaith a fyddai wedi cael ei wneud fel rhyw fath o therapi galwedigaethol ar gyfer y preswylwyr 'gradd uchel'. Byddai preswylwyr yn cael eu categoreiddio fel rhai gradd 'uchel' neu 'isel', gyda'r rhai uchel yn fwy abl a'r rhai isel yn llai abl. Rhoddwyd mwy o ryddid i breswylwyr gradd uchel i fynychu therapi diwydiannol a galwedigaethol ac i grwydro o gwmpas safle'r ysbyty. Barnwyd bod preswylwyr gradd isel yn llawer llai abl i gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn ac o'r herwydd, roeddent yn treulio'r rhan fwyaf o'u diwrnodau mewn ystafelloedd dydd, yn gwylio'r teledu neu'n gwrando ar y radio.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw