Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llun o ran o Arddangosfa Clywed y Cyn-Cuddiedig yn Amgueddfa Abertawe am Ysbyty Castell Hensol. Yn y llun hwn, mae modd i chi weld ymwelydd yn cymryd rhan mewn gweithgarwch a oedd yn efelychu'r gwaith a gwblhawyd gan breswylwyr yng Nghastell Hensol yn ystod eu therapi diwydiannol. Therapi diwydiannol oedd un o'r gweithgareddau dydd a oedd ar gael i breswylwyr Hensol, a'r gweithgarwch penodol hwn oedd creu beiros ar gyfer y farchnad gyffredinol. Barnwyd bod hwn yn rhoi diben ac ysgogiad i'r preswylwyr o ddydd i ddydd. Byddai'r preswylwyr y byddent yn cymryd rhan mewn therapi diwydiannol yn ennill cyflog bach o'r gwaith (llawer, llawer is na'r isafswm cyflog), a byddai modd iddynt wario'r arian hwn eu hunain. Mae nifer o gyn-breswylwyr yn cofio gwario'u harian yn y dafarn neu ar ddillad newydd. Yn yr arddangosfa, ail-grewyd hyn trwy ddangos beiros a dynnwyd yn ddarnau. Anogwyd yr ymwelwyr i roi'r beiros at ei gilydd fel rhywbeth i'w cadw o'r arddangosfa. Roedd y radio (a welir yn y llun ar ben pellaf y bwrdd) yn chwarae hanesion llafar ynghylch therapi diwydiannol a gweithgareddau hamdden, fel bod modd i ymwelwyr wrando ar y rhain wrth iddynt roi'r beiros at ei gilydd.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw