Skip to main content

Helen Jones

Mae'r cyfwelai'n cofio mynd i wylio teledu'r ddynes drws nesaf gan fod ganddyn nhw blant yr un oed, rhaglenni plant oeddent yn eu gwylio'n bennaf. Clywodd am drychineb Aberfan yn Llundain, mae'n cofio gweld poster 'South Wales Disaster' ond heb ddeall yn iawn beth oedd wedi digwydd nes cyrraedd y gwesty a'i weld ar y teledu. Roeddent yn cadw gwely a brecwast yng Nghaernarfon yn ystod yr Arwisgiad ac mi roedd llond t? o westeion a theulu a ffrindiau'n gwylio ar y teledu a mynd allan i'r ardd bob yn ail. Arhosodd ar ei thraed i wylio canlyniad Refferendwm 97 ond nid yw'n cofio llawer am yr ymgyrch, Gwynfor Evans yn ennill sedd yn fwy cofiadwy.Roedd lansiad S4C yn bwysig i'r cyfwelai, mae'n gwylio pob drama. Dywed fod wynebau cyfarwydd ar y teledu yn ei gwneud hi'n fwy parod i wylio.Cofio eitemau newyddion o gyfnod Streic y Glowyr, meddwl bod y newyddion yn gor-ddweud digwyddiadau dramatig ac yn chwilio amdanyn nhw. Dywed fod papurau newydd yn gwneud hyn hefyd ond ddim y cael gymaint o effaith ar bobl a'r teledu.

Gwelediadau:
1013
Ffefrynnau:
0
Casgliad wedi’i greu:
14/07/2015

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment