Gwynne Belton

Cof cyntaf y cyfwelai yw gweld teledu yn ffenest siop T.E Roberts yng Nghoed-poeth. Gwyliodd y Coroni yn nhy ffrind, meddyliodd ei fod yn ddiflas braidd ond mae'n cofio Brenhines Tonga. Aberfan gafodd yr effaith fwyaf ar y cyfwelai, mae'n cofio cynebryngau'r plant ar y teledu. Wedi gwylio rhannau o'r Arwisgiad ond heb gytuno'n llwyr a'r digwyddiad. Meddwl bod gormod o ddarlledu. Dim llawer o ddiddordeb gan y cyfwelai yn Refferendwm 79, ddim yn meddwl bod Cymru'n barod. Ond dywed fod ganddi fwy o ddiddordeb erbyn 97. Roedd rhaid gwneud ymdrech arbennig i gael S4C; doedd signal ddim yn eu cyrraedd. Heb wneud i ddechrau ond chwaraeon wedi eu perswadio. Dywed fod bai ar y ddwy ochr yn ystod Streic y Glowyr, ond teledu ddim yn dangos y glowyr yn deg a chymedrol chwaith.

Mae 7 eitem yn y casgliad

  • 849
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 903
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,310
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,076
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,154
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 927
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,027
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi