Gwyneth Jones

Ymhlith atgofion cynharaf y cyfwelai am deledu mae atgof o wylio 'Review of the Year' ar Nos Galan yn nhy ffrind ar sgrin fach 12" gyda thua dwsin o bobl eraill. Dywed mai priodasau brenhinol sydd wedi gwneud yr argraff fwyaf arni. Gwyliodd y Coroni yng Nghaer, cofia ei fod yn gyffrous iawn gweld y Frenhines, gwelodd bartion stryd ar y ffordd adref. Gwyliodd rhai adroddiadau o Dryweryn ar y teledu ond y dadleuon lleol a wnaeth yr argraff fwyaf. Teimla fod y darlledu o Aberfan yn sensitif ac yn dangos yr effaith ar y gymuned yno. Nid oedd yn ymwybodol o wrthwyneb i'r Arwisgiad, gwyliodd y seremoni a theimlai'n falch.Dilynodd ddadleuon Datganoli ac roedd yn ymddiddori, bob amser yn aros yn effro ar gyfer canlyniadau ac yn mwynhau dadleuon gwleidyddol yn hwyr y nos.Gwyliodd y cyfwelai ddarlledu Streic y Glowyr ac roedd yn deall safbwynt y glowyr, ond cofia hefyd y trais a meddwl bod gan y llywodraeth safbwynt dilys hefyd. Creda fod Wrecsam yn fwy ymwybodol o beryglon cloddio glo oherwydd trychineb Gresffordd.

Mae 7 eitem yn y casgliad

  • 754
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 743
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,043
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 934
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 746
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 750
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 680
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi