Marjorie Peters
Roedd y cyfwelai'n un o'r ychydig oedd ganddi deledu ar gyfer y Coroni ac fe wahoddodd y cymdogion i ddod i wylio. Roedd opera yn bwysig hefyd, ond digwyddiadau gwladol oedd yn gwneud yr argraff fwyaf. Cofio cael dadl ynglyn a Thryweryn yn y gwaith ond ni feddyliodd ryw lawer am yr effaith tan yn ddiweddarach. Clywodd am drychineb Aberfan tra oedd yn y siop trin gwallt, a gwelodd y darlledu'n ddiweddarach. Gwyliodd yr Arwisgiad adref a chofia'r pryderon y byddai rhywun yn sbwylio'r seremoni. Cofia Arthur Scargill a'r gwrthdaro yn ystod Streic y Glowyr. Roedd yn ymwybodol o'r golled i gymunedau ond meddyliai ei bod yn beth da nad oedd rhaid i lowyr fynd i mewn i'r pyllau mwyach.