Joan Hughes

Atgof cynharaf y cyfwelai yw gweld y Coroni yn nh? ffrind a chael achlysur cymdeithasol pleserus iawn. Ni wnaeth ddechrau gwylio'n rheolaidd nes diwedd y 60au.Roedd Aberfan yn ingol, gan fod cydweithiwr yn dod o Aberfan, roedd hi yn y gwaith pan glywodd y newyddion. Mi wnaeth y darlledu cyfleu'r teimlad yn Aberfan gan fod y sawl a oedd yn sylwebu yn amlwg wedi cael ysgytwad eu hunain. Gwyliodd yr Arwisgiad a chofia'r pryder y byddai rhywbeth yn digwydd yn ystod y seremoni. Nid oedd yn meddwl ei fod yn sarhad ar Gymru ond yn hytrach yn gydnabyddiaeth fod Cymru ar wahan. Nid yw'n cofio llawer am Refferendwm 79 ond erbyn 1997 roedd yn awyddus am bleidlais Ie. Nid oedd yn cymeradwyo polisi'r llywodraeth yn ystod Streic y Glowyr ac roedd yn cydymdeimlo a'r glowyr. Nid oedd y darlledu'n portreadu'r glowyr yn dda ond oherwydd ei chydymdeimlad ni fedrai farnu.

Mae 7 eitem yn y casgliad

  • 561
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 783
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 900
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 673
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 581
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 581
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 695
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi