Ann Griffiths
Ann Griffiths
Mae'r cyfwelai'n cofio mynd i dai ffrindiau i wylio teledu a wedi gwylio'r Coroni gyda ffrindiau. Wedi priodi a magu plant heb deledu, cafwyd un ar gyfer Arwisgiad Tywysog Siarl. Roedd yn gwylio'r teledu a rhedeg i'r lon i weld yr orymdaith bob yn ail ar ddiwrnod y seremoni. Dywed ei fod yn ddiwrnod pwysig ac roedd llond y ty o bobl a bwyd wedi ei baratoi. Ddim yn cofio gweld gwrthwynebiad ar y teledu ond roedd yr heddlu eisiau enwau pawb a fyddai'n gwylio yn y ty. Ddim yn cofio llawer am yr ymgyrch Datganoli ond yn meddwl bod teledu'n cael effaith ar etholiadau.
More collections with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment