Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Daw'r clip sain hwn o gyfweliad gyda Dorothy Fleming, a recordiwyd gan yr Imperial War Museums ar 27 Mawrth 1996. Yn y clip, mae Dorothy yn trafod bywyd yn Fienna cyn yr Ail Ryfel Byd.

Trawsgrifiad

Es i i Kindergarten yn Fienna ac yna dechreuais yn yr ysgol gynradd gyffredin. Rwy’n cofio yr oedd yn academaidd iawn ac yn llym iawn. Pan fyddaf yn rhoi sgyrsiau am fy stori, rhywbeth rwyf yn ei wneud, rwy’n sôn wrth y bobl am sut roedden ni’n arfer gorfod eistedd gyda ein dwylo yn fflat ar y ddesg o’n blaenau oni bai ein bod ni’n ysgrifennu. Roedd hyn er mwyn i’r athro wybod ble roedd ein dwylo, a phan roedden ni’n ateb cwestiwn, roedd yn rhaid i ni eu codi gyda dim ond dau fys am i fyny fel saliwt y Sgowtiaid. Roedd yn ddisgybledig iawn ac yn academaidd iawn a dim ond y pynciau academaidd arferol roedden ni’n ei astudio.

Roedden ni’n mynd i’r ysgol yn gynnar yn y bore, a dim ond ysgol boreuol oedd gennych chi, ac yn y prynhawn, roeddech chi’n gwneud yr holl bethau allgyrsiol. A’r pethau roeddwn i’n ei wneud oedd sglefrio, nofio, gymnasteg, a fy ngwaith cartref, ac yn bwysicaf oll, Saesneg.

Roedd Mam yn fenyw anhygoel, er mai gyrru eich plant i wersi preifat er mwyn dysgu Ffrangeg oedd ffasiwn y cyfnod, roedd hi’n meddwl rywsut y gallai’r Saesneg fod yn fwy defnyddiol, ac yn wir, mi roedd hi’n iawn. Felly, cefais wersi preifat yn Saesneg, ac wrth i mi ddod i’r wlad hon pan oeddwn yn 10 oed, a phasio’r 11+ yn 11+, mae’r cyfan yn glod i’m hathro am wn i!

Felly … dim ond ysgol gynradd gyffredin oedd yr ysgol gynradd gerllaw; roeddech chi’n mynd i’r ysgol leol, ac mae rhaid fy mod wedi gwneud yn gymharol dda. Ac yna es ymlaen i ysgol o’r enw Frauen-Erwerb-Verein, sy’n debyg i ysgol ddydd gyhoeddus i ferched, ysgolion ymddiriedolaeth yn y wlad hon, lle roeddwn yn dechrau’n gynnar; dwi’n meddwl y dylem fod wedi dechrau yno yn 11 oed ond roeddwn i yno eisoes pan oeddwn i’n 10 oed, ac roedd hwnnw'n academaidd iawn hefyd, ond roedd hi’n ymddangos fy mod i’n gwneud yn iawn. Y syniad oedd y byddai'r holl ferched yno yn mynd ymlaen i broffesiynau yn y pen draw, ac yn sicr yn mynd i’r brifysgol. Ond wrth gwrs, wnes i ddim aros yno yn ddigon hir er mwyn i hynny ddigwydd.

[...]

I Cefais blentyndod hapus iawn, oedd yn llawn gweithgareddau, ac roeddwn yn falch iawn pan gafodd fy chwaer ei geni pan oeddwn i’n chwech oed, ac mae gen i atgofion da iawn o ymweld â siop fy nhad, a mynd i’r opera, a nofio, a mynd ar wyliau hyfryd, a mynd i sgïo a sglefrio, a chwarae’r piano. Doeddwn i ddim mor awyddus a hynny i ymarfer ar y biano er i mi fod yn dechrau gwneud darnau cyn i ni ymadael ac roeddwn i’n mwynhau hynny; graddfeydd wnes i ddim mwynhau cymaint! Ac roeddwn i’n mwynhau fy ngwersi Saesneg, a mantais fawr i mi oedd fy mod i wedi bod oddi cartref ddwy neu dair gwaith cyn i mi ddod i’r wlad hon, felly, yn wahanol i lawer o’r plant eraill nad oedd erioed wedi bod i ffwrdd cyn ymfudo, nid oedd hi’n gymaint o sioc i mi.

Dorothy Fleming - bywgraffiad byr

Ganed Dorothy Fleming yn Dora Oppenheimer yn Fienna, Awstria, yn 1928. Roedd hi'n byw mewn fflat mawr ym mhumed ardal Fienna gyda'i thad oedd yn optegydd, ei mam a'i chwaer iau. Roedd eu bywyd yn llawn a hapus. Roeddent yn mwynhau opera, sglefrio iâ a cherddoriaeth. Mynychodd Dorothy y Kindergarten lleol ac yna ysgol gynradd yn Fienna.

Pan oedd Dorothy yn ddeg oed, cymerodd Natsïaid-Almaen reolaeth ar Awstria yn yr hyn a elwid yn Anschluss. Ar ôl yr Anschluss newidiodd bywyd yn ddramatig i Dorothy a'i theulu. Yn fuan nid oedd yn gallu mynd i'w hysgol arferol. Ac ar ôl y Kristallnacht, collodd ei thad ei ddwy siop optegydd. Wedi'i gadael heb unrhyw ddewis arall, trefnodd ei rhieni i Dorothy a'i chwaer deithio i Brydain ar Kindertransport gan addo y byddent yn dilyn yn ddiweddarach.

Ar ôl teithio i Brydain, bu Dorothy yn byw yn Leeds gyda'i rhieni maeth. Yn y diwedd, llwyddodd ei rhieni i ymuno â Dorothy a’i chwaer, ac roedden nhw’n byw yn Llundain mewn fflat bach gyda ffoaduriaid eraill. Roedd gan Dorothy ewythr yn Ne Cymru a oedd wedi sefydlu ffatri ar Ystad Fasnachu Trefforest a threuliodd beth amser yn byw gydag ef. Wedi cyfnod pan gafodd ei thad ei garcharu ar Ynys Manaw, yn y diwedd llwyddodd ei theulu cyfan i ymgartrefu yng Nghaerdydd. Roedd ei thad hefyd yn gweithio ar Stad Fasnachu Trefforest yn gwneud nwyddau optegol ar gyfer y rhyfel. Yng Nghaerdydd, mynychodd Dorothy Ysgol Howell's. Yn ddiweddarach aeth i brifysgol yng Nghaerfaddon a daeth yn athrawes.

Ffynhonnell:

IWM, Fleming, Dorothy (Oral History) [cyrchwyd 24 Tachwedd 2021]

Storfa: Imperial War Museums, catalogue number: 16600.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw