Casgliad Gwers 1 Kindertransport

Mae’r Casgliad hwn yn cyd-fynd â’r adnodd dysgu Gwers 1 Kindertransport. Cynhyrchwyd yr adnodd hwn fel rhan o brosiect partneriaeth 'Côf a lithr, llythyrau a geidw: creu adnoddau'r Holocost ar gyfer ysgolion Cymru' rhwng Canolfan Astudio Symudedd Pobl (CMOP), Prifysgol Aberystwyth, a Jewish History Association of South Wales/Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru (JHASW/CHIDC).

Wrth ffoi ar draws Ewrop i ddianc rhag y Natsïaid, cyrhaeddodd tua 10,000 o blant Iddewig ym Mhrydain rhwng Rhagfyr 1938 a Mai 1940 ar y 'Kindertransport' (Trafnidiaeth Plant). Roedd yn rhaid i'r mwyafrif ohonyn nhw deithio heb eu rhieni ac aelodau eraill o'r teulu. Daeth nifer ohonyn nhw i Gymru. Yn y casgliad hwn o adnoddau, rydym yn archwilio rhai o straeon y ffoaduriaid a oedd yn blant yn teithio ar y Kindertransport i Gymru.

Mae 4 eitem yn y casgliad