Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Daw'r clip sain hwn o gyfweliad gyda Dorothy Fleming, a recordiwyd gan yr Imperial War Museums ar 27 Mawrth 1996. Yn y clip, mae Dorothy yn trafod bywyd yn Fienna ar ôl yr Anschluss.

Trawsgrifiad.

Ac rwy’n cofio’r newid ar ôl yr Anschluss, pan ddechreuodd amseroedd bwyta fod yn llawer mwy sombr, oherwydd i ddechrau fe wnaethant geisio peidio â thrafod yr hyn oedd yn digwydd o flaen y plant – fel mae pobl yn gwneud – ond wrth i amser fynd yn ei flaen aeth hi mor ddrwg nes i mi gofio’r chwerthin a’r jôcs yn stopio, ac roedd y trafodaethau i gyd ynghylch trwyddedau a fisas, a phobl a oedd wedi gallu dianc, a’r rhai nad oedd wedi gallu gwneud hynny.

Ac wrth gwrs, bu i bethau newid yn ddramatig yn yr ysgol, oherwydd ar ôl yr Anschluss, yn sydyn roedd y rhai ohonom ni yn y dosbarth a oedd yn Iddewig yn cael eu cadw ar wahân i’r lleill – ‘Rydych chi’n eistedd yn y fan acw, rydych chi'n Iddewig, does dim rhaid i neb siarad â chi.’ A dwi’n cofio llawer o’r merched yn ymuno â’r BDM, y Bund Deutscher Mädchen, sydd fel Ieuenctid Hitler i ferched, ac rydw i’n cofio’r hyn roedden nhw’n ei wisgo, gan gynnwys y sanau gwyn tri chwarter, ac mae’n rhaid i mi ddweud hyd heddiw, nid wyf yn hoff o sanau gwyn tri chwarter, er nad wyf yn niwrotig yn ei gylch ac roedd fy mhlant yn eu gwisgo yr un fath â phawb arall, ond nid wyf yn teimlo’n gyffyrddus yn eu cylch.

Ac mae gen i gof cryf iawn, iawn o’r amser hwnnw, rydw i bob amser yn adrodd i bobl eraill oherwydd ei fod wedi gwneud – roedd wedi
dylanwadu’n fawr arna i. Rwy’n cofio’r athrawes yn dweud wrth y plant fod gennym ni drefn newydd nawr, a byddwch chi wedi sylwi bod pethau’n wahanol, ac rydw i am i chi addo i mi y byddwch chi’n dod i ddweud wrtha i os ydych chi’n clywed eich rhieni neu unrhyw un o’u ffrindiau, neu eich brodyr a’ch chwiorydd, yn dweud unrhyw beth cas am y drefn newydd hon sydd gennym; rydych chi i ddod i ddweud wrthaf i. Felly, yr hyn yr oedd hi’n ei wneud, roedd hi’n annog y plant i ddweud ar eu rhieni tu ol eu cefnau, fel rydyn ni’n dweud, ac yn 10 oed roeddwn yn gweld hynny’n annioddefol, ac yn 67 oed, rwy’n dal yn ei weld yn annioddefol!

A phan oeddwn i’n hyfforddi athrawon, ym mhob grŵp blwyddyn y bûm yn gweithio gyda nhw, dywedais yn ddieithriad wrthynt ‘Rhaid i chi wneud yr hyn sy’n iawn yn eich barn chi, rhaid i chi weithio allan yr hyn sy’n iawn yn eich barn chi a glynu wrth y syniad hwnnw, nid ond yr hyn maen nhw, y tu hwnt i’r drysau hyn, yn dweud wrthych chi’.

Dorothy Fleming - bywgraffiad byr.

Ganed Dorothy Fleming yn Dora Oppenheimer yn Fienna, Awstria, yn 1928. Roedd hi'n byw mewn fflat mawr ym mhumed ardal Fienna gyda'i thad oedd yn optegydd, ei mam a'i chwaer iau. Roedd eu bywyd yn llawn a hapus. Roeddent yn mwynhau opera, sglefrio iâ a cherddoriaeth. Mynychodd Dorothy y Kindergarten lleol ac yna ysgol gynradd yn Fienna.

Pan oedd Dorothy yn ddeg oed, cymerodd Natsïaid-Almaen reolaeth ar Awstria yn yr hyn a elwid yn Anschluss. Ar ôl yr Anschluss newidiodd bywyd yn ddramatig i Dorothy a'i theulu. Yn fuan nid oedd yn gallu mynd i'w hysgol arferol. Ac ar ôl y Kristallnacht, collodd ei thad ei ddwy siop optegydd. Wedi'i gadael heb unrhyw ddewis arall, trefnodd ei rhieni i Dorothy a'i chwaer deithio i Brydain ar Kindertransport gan addo y byddent yn dilyn yn ddiweddarach.

Ar ôl teithio i Brydain, bu Dorothy yn byw yn Leeds gyda'i rhieni maeth. Yn y diwedd, llwyddodd ei rhieni i ymuno â Dorothy a’i chwaer, ac roedden nhw’n byw yn Llundain mewn fflat bach gyda ffoaduriaid eraill. Roedd gan Dorothy ewythr yn Ne Cymru a oedd wedi sefydlu ffatri ar Ystad Fasnachu Trefforest a threuliodd beth amser yn byw gydag ef. Wedi cyfnod pan gafodd ei thad ei garcharu ar Ynys Manaw, yn y diwedd llwyddodd ei theulu cyfan i ymgartrefu yng Nghaerdydd. Roedd ei thad hefyd yn gweithio ar Stad Fasnachu Trefforest yn gwneud nwyddau optegol ar gyfer y rhyfel. Yng Nghaerdydd, mynychodd Dorothy Ysgol Howell's. Yn ddiweddarach aeth i brifysgol yng Nghaerfaddon a daeth yn athrawes.

Ffynhonnell:

IWM, Fleming, Dorothy (Oral History) [cyrchwyd 24 Tachwedd 2021]

Storfa: Imperial War Museums, catalogue number: 16600.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw