Cynlluniwyd yr adnodd dysgu hwn i gefnogi athrawon ac addysgwyr eraill sydd am i’w disgyblion ymgysylltu â gwaith yr artist John Piper (1903-1992), yn enwedig ei baentiadau a darluniau o fynyddoedd gogledd Cymru.
Bu mynyddoedd gogledd Cymru yn ysbrydoliaeth i Piper o ddechrau’r 1940au tan ganol y 1950au, a bu’n rhentu dau fwthyn yn Eryri yn ystod y cyfnod. Byddai’r bythynnod yn ganolbwynt i’w deithiau drwy’r dirwedd yn cofnodi siapau, ffurfiau lled-haniaethol, gweadau a lliwiau cyfoethog y mynyddoedd.
Yn 2014, prynodd Amgueddfa Cymru gasgliad o weithiau Piper gan unigolyn â chysylltiadau â Chymru, diolch i gefnogaeth hael Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Ymddiriedolaeth Derek Williams a’r Gronfa Gelf.
Dewch o hyd i’r paentiadau yma drwy glicio ar y ddolen i’r casgliad. Gallwch wneud cymariaethau gyda rhai trwy edrych ar ffotograff o’r un lleoliad.
Defnyddiwch yr adnodd dysgu er mwyn darganfod mwy am waith John Piper. Mae llyfryn gweithgareddau hefyd, gyda gweithgareddau creadigol i’w gwneud yn y dosbarth.
Gweithgaredd Llyfr Tywys: Mae’r adnodd dysgu yn cynnwys gweithgaredd creu llyfryn tywys gan blant, ar gyfer plant. Beth am ddefnyddio gwefan Casgliad y Werin er mwyn creu fersiwn digidol? Gallwch greu taith, gasgliad neu stori er mwyn gwneud hyn, gan ddefnyddio’r paentiadau digidol ac uwchlwytho eich gwaith eich hun.
Gweithgareddau creadigol: Mae nifer o weithgareddau creadigol yn y pecyn addysg a gweithgareddau. Gallwch eu rhannu trwy eu uwchlwytho ar y wefan. Dywedwch fwy wrthym amdanynt trwy eu cynnwys mewn stori, neu crëwch arddangosfa ddigidol drwy greu casgliad.
Nodwch nad yw’r arddangosfa sydd yn cael ei grybwyll yn y ddogfen yn rhedeg mwyach, ond gallwch weld yr holl beintiadau perthnasol drwy ddilyn y dolenni. Mae’r lluniau o’r paentiadau dan hawlfraint, felly defnyddiwch nhw o fewn gwefan Casgliad y Werin yn unig.
Am fwy ar greu cynnwys digidol a chymorth gyda hawlfraint, gwelwch y Blwch Offer ar gyfer athrawon.
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw