Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Inc, dyfrlliw a gouache ar bapur, gan John Piper oddeutu 1949-1950.
Mae Piper wedi dewis portreadu Tryfan Bach yma – sef y graig fawr unionsyth ar y chwith. Mae’r marciau gwyn ar y dde yn cynrychioli’r haenau tywodfaen, ac mae’n bosibl mai cen neu redyn marw yw’r marciau coch ar y gwaelod. Yn ei nodiadau, mae Piper yn disgrifio cen melyn crôm ac oren crôm. Mae’r ddau liw’n ymddangos yn y
llun hwn, gan ychwanegu tipyn o fywiogrwydd lliwgar i olygfa digon llwyd ar y cyfan. Efallai mai patrymau a adawyd ar y creigiau gan gen coll
yw’r troellau gwyn sydd ar ochr chwith isaf y llun.
Cafodd hwn ei beintio oddeutu 1949-50, pan oedd Piper yn rhentu ffermdy Bodesi gerllaw. Gan fod
Tryfan ar garreg y drws, roedd hi’n hawdd i Piper archwilio’r creigiau wrth droed y mynydd.
Rhif cyfeirnod: DA008137
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw