John Piper
Bu mynyddoedd gogledd Cymru yn ysbrydoliaeth i Piper o ddechrau’r 1940au tan ganol y 1950au, ac bu’n rhentu dau fwthyn yn Eryri yn ystod y cyfnod. Byddai’r bythynnod yn ganolbwynt i’w deithiau drwy’r dirwedd yn cofnodi siapau, ffurfiau lled-haniaethol, gweadau a lliwiau cyfoethog y mynyddoedd. Yn 2014, prynodd Amgueddfa Cymru gasgliad o weithiau Piper gan unigolyn â chysylltiadau â Chymru, diolch i gefnogaeth hael Cronfa Dreftadaeth y Loteri, Ymddiriedolaeth Derek Williams a’r Gronfa Gelf.