Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r llun cyntaf o baentiad inc, dyfrlliw a chreon ar bapur, gan John Piper, tua 1950. Mae'r ail lun yn ffotograff o'r dirwedd a ddarlunnir yn y peintiad, a chymryd gan Amgueddfa Cymru yng 2014.Dyma lun o fwthyn Pentre y bu Piper a'i deulu yn ei rentu o 1945-6. Cafodd hwn ei beintio ym 1950, pan oedd eisoes yn rhentu Bodesi, bwthyn arall yn Nyffryn Ogwen.Roedd Pentre'n ormod o drafferth i'r teulu mewn tywydd garw. Gan fod y bwthyn yn sefyll wrth droed bryncyn serth, byddai dwˆ r glaw yn gorlifo i'r bwthyn yn aml. Penderfynodd symud gyda'i deulu i Fodesi ym 1949 yn hytrach na pharhau i frwydro yn erbyn yr elfennau. Tyˆ haf y landlord oedd hwn, felly roedd croeso i Piper ei ddefnyddio weddill y flwyddyn. Mae'r palet llwyd yn bennaf yn cyfleu diwrnod oer o aeaf. Rhif cyfeirnod: DA006770_02

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (1)

Valerie Hannah's profile picture
You may want to reconsider the caption on this picture. I think you mean to say it was created "retrospectively" rather than "posthumously". It would have been difficult to create it after death. Hope this helps.

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw