Astudiaeth Achos: Io Satwrnalia!
1360 wedi gweld yr eitem hon
Disgrifiad
Hanes y Satwrnalia. Mae’r fideo yn y pecyn addysg yma wedi cael ei greu gan Somerton Primary School fel rhan o Ddiwrnod Meddiannu Plant mewn Amgueddfeydd 2016. Gallwch ddod o hyd i ddolen i’r fideo isod, yn ogystal â dolen i gasgliad o wrthrychau a ddewiswyd gan yr Ysgol ar eu hymweliad a stori er mwyn darganfod mwy am yr ŵyl ganol gaeaf Rhufeinig, y Satwrnalia.
Gallwch ddefnyddio’r adnoddau atodol er mwyn creu eich fideo eich hunain. Maent yn cynnwys templed ar gyfer bwrdd stori ac esiamplau o linellau a ddefnyddiwyd ar gyfer creu'r fideo hwn am y Satwrnalia.
Cwricwlwm i Gymru
Y Dyniaethau, Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, Fframwaith Cymhwysedd Digidol
Hanes
Oed: 8-11 / Cam Cynnydd 3
Astudiaeth achos
Casglwch syniadau ar gyfer eich projectau digidol eich hunan drwy weld sut mae ysgolion eraill wedi defnyddio ein gwefan.
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw