Hanes y Satwrnalia, fel adroddir yn y fidio gan Somerton Primary School

Eitemau yn y stori hon:

  • 2,062
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,156
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 942
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,896
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 1,125
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi

Daeth disgyblion yma o Somerton Primary School i Amgueddfa Leng Rufeinig Cymru fel rhan o Ddiwrnod Meddiannu Kids in Museums, 2016. Cymerwyd yr awenau ganddynt er mwyn dweud hanes y Satwrnalia, Crëwyd y fidio a welir yma ganddynt wedi iddynt ei sgriptio a'i ffilmio. Aethant y tu ôl i'r llenni yn yr Amgueddfa hefyd i ddarganfod gwrthrychau Rhufeinig, ac yna dewis a thynnu lluniau o'r eitemau er mwyn ychwanegu at stori'r Satwrnalia.

 



Gŵyl a ddathlwyd yng nghanol y gaeaf gan y Rhufeiniaid oedd y Satwrnalia. Galwodd. Dyma oedd gŵyl orau’r flwyddyn yn ôl y Rhufeiniwr Catallus - optimus dierum! Y gorau o’r dyddiau!  


 




Roedd yr ŵyl yn dechrau ar y 17eg o Ragfyr ac  yn cael ei ddathlu am bum diwrnod, ychydig cyn yr adeg o’r flwyddyn y dathlwyd y Nadolig heddiw. Roedd gan y Rhufeiniad lawer o draddodiadau sydd efallai yn gyfarwydd os ydych yn dathlu’r Nadolig! 


 




Roedd y Satwrnalia yn dathlu Sadwrn, y duw. Diolchwyd i Sadwrn am y cynhaeaf, ac roedd y Rhufeiniaid yn gweddïo at Sadwrn yn gofyn am ddigonedd o fwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf. O gerfluniau, a darn o fodrwy arian a ddarganfuwyd yng Nghaerllion, gallwn ddweud fod y Rhufeiniaid yn meddwl fod Sadwrn yn edrych fel hen ddyn gyda barf trwchus wen, a gwallt hir a chyrliog gwyn. Mae’n edrych yn debyg iawn i Siôn Corn, ond gyda dillad gwahanol! 


 




Credai’r Rhufeiniaid fod Sadwrn yn arfer rheoli’r holl fyd ar un adeg. Credir fod yr adeg yma yn ‘Oes Aur o heddwch, cydraddoldeb ac ewyllys da rhwng pawb. 


 




Yn ystod y Satwrnalia, roedd y Rhufeiniaid yn gwisgo hetiau pigfain meddal a elwid yn ‘Pilews’. Symbol o ryddid oedd y rhain, a oedd fel arfer ond yn cael eu gwisgo gan gaethweision wedi u rhyddhau. Roedd caethweision yn cael amser rhydd, yn cael siarad yn rhydd yn ystod y Satwrnalia, ac weithiau hyd yn oed roedd eu meistri yn gweini bwyd iddynt mewn gwledd! Roedd y traddodiadau yma yn ail-greu'r‘Oes Aur’ gan fod pawb yn esgus bod yn gyfartal i’w gilydd, ac yn ymddangos yn gyfartal am y dydd. 


 




Roedd y Rhufeiniaid hefyd yn rhoi anrhegion i’w gilydd. Gall yr anrhegion yma fod yn grochenwaith, ffigyrau cwyr neu bren, pecynnau ymdaclu, tabledi cwyr neu leiniau. Roeddent yn aml yn rhoi canhwyllau i’w gilydd. Yn y fyddin, byddai’r milwyr yn cael eu talu ychydig llai er mwyn i’r arian fynd tuag at fwyd ychwanegol, fel porc. 


 




Addurnwyd y tai gyda choronblethau a thorchau bytholwyrdd, yn cynnwys eiddew a chelyn. Roedd celyn yn gysegredig i Sadwrn. Roeddent hefyd yn rhoi ser ar y coed, a phennau Ianws, ar y coed y tu allan. Duw oedd Ianws gyda dau wyneb; un yn edrych yn ôl tua’r gorffennol, a’r llall yn edrych ymlaen tua’r dyfodol. 


 




Roedd gwleddoedd preifat a cyhoeddus yn ystod y Satwrnalia. Bwytai Rhufeiniaid cyfoethog fwydydd fel llygod daear, ymennydd paun a malwod. Roedd chwarae gyda gemau bwrdd neu gamblo gyda dis yn boblogaidd. Yn ystod y rhan fwyaf o fis Rhagfyr, gallai’r Rhufeiniaid wylio gladiatoriaid hefyd.


 


Yn ystod y Satwrnalia, gwaeddodd y Rhufeiniaid ‘Io Satwrnalia!’ ar ei gilydd, yn ddigon tebyg i ddweud ‘Nadolig llawen’ neu ‘cyfarchion y tymor’ i rywun, ond yn swnllyd iawn!