Disgrifiad

Yr eitem hon yw Continuous Certificate of Discharge (Tystysgrif Rhyddhad Barhaus) John Freeman. Mae’r llyfryn yn cofnodi ei swyddi ar longau, gan ddechrau ar 28 Mehefin 1918 ar y BARON POLWORTH a gorffen ar 19 Ebrill 1951 gyda’i wasanaeth olaf ar yr agerlong ASHGATE. Byddai bron pob un o’i fordeithiau yn mynd ag ef i borthladdoedd tramor a nodir yn gyson yn ei eirda bod ei allu a’i ymddygiad cyffredinol yn ‘VERY GOOD’.

Ganwyd John Freeman yn Port Royal/Kingstown, Jamaica, ym 1899. Mae’r llyfryn hwn hefyd yn cynnwys Tystysgrif Rhyddhad o ddyddiad cynharach. Mae’r dystysgrif hon yn dangos iddo ymgymryd â’i swydd gyntaf ar 9 Rhagfyr 1916, fel Ail Stiward ar fwrdd y LUCERNA a oedd yn eiddo i gwmni o Lerpwl ac a hwyliai o Lundain ar y pryd. Dyma dystiolaeth bod John Freeman yn gwasanaethu yn y Llynges Fasnachol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar 6 Mawrth 1937, ychwanegodd Heddlu Caerdydd mewn inc coch 'Nationality and Identity [...] British Subject'. Yn ei ddatganiad mae’r heddwas yn cyfeirio at rif Tystysgrif Dinasyddiaeth a Hunaniaeth John Freeman a roddwyd iddo ar 18 Ionawr 1937 yn Kingstown, Jamaica.
Mae ffotograff ar dudalen olaf y llyfryn o John Freeman yn dal plât sy’n dangos ei rif adnabod yn y Llynges Fasnachol.

Beryl Makkers (Freeman cyn priodi), merch John Freeman, a ddaeth â’r ddogfen hon i sylw Prosiect Llongau-U 1914-18 ac a roddodd ganiatâd i ni ei sganio

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw