Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ym 1835 ffurfiwyd Cymdeithas Lenyddol ac Athronyddol Abertawe gan grŵp o ddynion busnes, diwydianwyr a gwyddonwyr lleol, gyda'r bwriad o hyrwyddo diddordeb mewn Llenyddiaeth, y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Hanes Lleol. Ym 1838, rhoddwyd Siarter Brenhinol iddo a newidiwyd yr enw i Sefydliad Brenhinol De Cymru.

Comisiynwyd adeilad Amgueddfa Abertawe i arddangos casgliadau'r Sefydliad Brenhinol. Roedd yr amgueddfa'n cynnwys llyfrgell, labordy ac ystafell ddarlithio. Canolbwyntiai'r darlithiau cyhoeddus cynnar ar bynciau gwyddonol, tra darparai'r amgueddfa ar gyfer cynulleidfa fwy eang.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw