Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Lede
Mae lleisiau merched yn ffurfio cainc bwysig ymhlith straeon cymunedau’r porthladdoedd. Yn aml iawn maent yn cuddio mewn llythyrau personol, neu ddyddiaduron heb eu cyhoeddi, ac nid yw’r lleisiau hyn wastad yn hawdd i’w clywed heddiw.
Stori
Ym mis Hydref 1786 pan groesodd Mary Wollstonecraft o Gaergybi i Ddulyn – ‘the best and shortest passage’, fel y sylwodd – buodd hi’n ffodus. ‘[T]he weather was fine the prospects delightful’, ysgrifennodd mewn llythyr at Eliza Bishop, gan edrych yn ôl ar y fordaith, pryd y daeth i adnabod ‘a young Clergyman’ (mwy na thebyg Y Parch. Henry Gabell) oedd hefyd ar ei ffordd i gychwyn gwaith fel tiwtor yn Iwerddon, ac roedd ‘in company with’ Arthur James Plunkett (Lord Fingall), arglwydd Catholig blaengar, a wrthwynebai annibyniaeth i Iwerddon. Gan gyfeirio, efallai, at natur y ‘sea of thoughts’ a ymgollodd hi ynddo yn ystod y daith hon, gorffennodd dan ddweud, yn fwy pigog: ‘I would sooner tell you a tale of some humbler creatures … I shall make a point of finding them out’. Mae’r llinell daith hefyd, efallai, yn cynnwys elfen o fewnwelediad: ‘the gift / of knowing where your own knowing ends’.
Roedd y croesiadau hyn yn heriol mewn sawl ffordd. Gwyddys am anhawsterau teithio ar y môr yn ystod y cyfnod — pa mor anghyfforddus a pheryglus y gallai fod. Ym 1817 cawn gipolwg gogleisiol gan Anne Plumptre o gyflwr teithio i fenywod: yn ei Narrative of a Residence in Ireland sylwai ‘very little attention is paid in general to the accommodation of female passengers’. Nid yw hi’n egluro ryw lawer am hyn, ond mae hi’n dangos wedyn sut oedd menywod yn medru paratoi cysur ar gyfer teithio oedd y tu hwnt i rai corfforol. ‘I had made a little provision of food for the mind’, meddai, ‘and had put up some books with my other sea stores: among these was Lady Morgan’s excellent novel of O’Donnel. – As I was going to visit a part of Ireland admirably described in this work, the county of Antrim, and had besides a letter of introduction to the amiable authoress at Dublin, it received great additional interest from being read as I was crossing the Irish Channel.’ Ni ddarllenir O’Donnel (1814), gan Sydney Owenson (Lady Morgan) yn aml iawn heddiw – mae’n nofel sy’n archwilio themau gwelliannau cymdeithas Iwerddon (yn enwedig rhai sydd yn ymwneud ag isadeiledd y wlad). Ond mae’n ddiddorol gweld Plumptre yn ei defnyddio fel rhyw fath o ymchwil cyn ei chyfnod yn Iwerddon. Dim ‘môr o syniadau’ gymaint â ‘syniadau ar y môr’, efallai.
Creodd y llongau post oedd yn gwasanaethu croesiadau Môr Iwerddon argraff fawr ar y nofelydd ac awdur ysgrifau teithio Catherine Hutton ym 1797:
The packets from Holyhead to Dublin are fine sloops of 70 tons burthen. I saw one at Caernarvon, wainscoted with mahogany, elegantly fitted up and furnished. They can carry a hundred persons each, but they only have sixteen beds. They are each allowed fourteen hands, though four would be sufficient to navigate the vessel. They are fast sailors, and will live in any sea, provided they have room.
Pan nad oedd yn ddiflas neu’n anghyfforddus, gallai teithio fod weithiau yn rhy ddiddorol – yn lluddedus, neu hyd yn oed yn beryglus. Cynigiodd Mary Anne Eade weddi arbennig i’r gorwel, wrth iddi ystyried ei thaith o Ynys Môn i Ddulyn. Gan feddwl am ei bachgen bach gartref, a phoeni na fyddai’n ei weld eto, cysylltodd Eade ei phryder meddwl gyda’r gerddoriaeth delyn roedd hi’n gwrando arni mewn tafarn Gymreig:
my mind during this interval naturally dwelt on all those dear friends from whom the boundless ocean was so soon to separate me, to separate me indeed for but a very short time, but the idea of having the rolling sea between us was so new & so strange as to appear to me quite frightful; with this idea in my head I fancied the air in question seemed to correspond with my feelings, & that it lamented the pain of an approaching exile; I was induced to ask the harper the name of it, & found by his answer that the music had spoken truly, for it was a song made on the commencement of a long journey & began with a farewell to the friends whom the traveller was about to leave.
Roedd hi’n iawn i bryderu. Ar ôl aros yn Nulyn a theithio o gwmpas Wicklow, dychwelodd Eade i Gaergybi. Gyda’r porthladd o fewn golwg, bu bron a chael damwain ddifrifol wrth i ddarn o’r hwylbren chwalu. Yn fuan ar ôl i Ben Caergybi ymddangos ar y gorwel…
… a sudden crash over our heads fearfully reminded us we were not yet secure of obtaining it: this proceeded from the fall of our topmast, which a sudden squall took compleatly [sic] in half, happily the rigging prevented its falling quite down, or probably my head would have received it & my dear little boy been obliged to find in you a mother, as well as an aunt…
Tamaid hanesyddol
- Yn aml iawn cadwyd cofnod o deithau i’w rhannu’n ddiweddarach gyda theulu a ffrindiau. Cofnododd Mary Ann Eade ei thaith i Iwerddon ar gyfer ei chwaer iau Eliza Vaux (g.1780), fel ymateb i daith Eliza yn ne Cymru (llawysgrif sydd bellach ar goll).
- Mae Narrative of a Residence in Ireland gan Anne Plumptre yn darllen fel taithlyfr i ymwelwyr i Ddulyn, gan gynnwys disgrifiadau o sefydliadau megis yr Academi Frenhinol Iwerddon, y Dollfa, Llyfrgell Marsh, Coleg y Drindod a’r Pedwar Llys.
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw