Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Lede
Mae ‘This is the Sea’ gan The Waterboys yn sôn am gyfleoedd ac am sicrhau ffawd newydd wrth grybwyll profiadau ysbrydol. O ystyried hyn, roedd teithio i Iwerddon ar y fferi yn ddiweddar wedi peri i mi feddwl am y ffordd y mae Môr Iwerddon wedi bod yn sianel ar gyfer grymoedd hanesyddol.
Yn y nawfed a'r degfed ganrif, sefydlodd y Llychlynwyr Dyflin (Dulyn) a Jórvik (Efrog) fel canolfannau trefedigol a daeth Môr Iwerddon yn dramwyfa forol rhwng y ddwy, yn ogystal â chyflawni rôl llwybr mordwyo allweddol o gwmpas glannau'r ynysoedd. Arweiniodd y môr at wrthdaro rhwng y Llychlynwyr a Rhodri Mawr o Wynedd, yr oedd ei dad o bosibl yn hanu o ganolbwynt y rhanbarth, sef Ynys Manaw. Yn ystod y 1080au a'r 1090au, aeth Gruffudd ap Cynan ar sawl taith ar draws Môr Iwerddon gyda lluoedd a oedd yn cynnwys Cymry, Gwyddelod a Daniaid i adennill tywysogaeth Gwynedd, ac i ffurfio cynghrair gyda Rhys ap Tewdwr er mwyn sicrhau gorsedd y Deheubarth ym Mrwydr Mynydd Carn ym 1081.
Penderfynodd Rhys ffoi i Iwerddon cyn pen ychydig flynyddoedd yn wyneb ymosodiadau o Bowys, ond dychwelodd unwaith eto gyda fflyd o Iwerddon i adennill ei deyrnas. Yna, bu'r môr yn llwybr i loches i fonheddwyr Cymru yn ystod cyfnodau o galedi, ond yn yr un modd, bu'n gyfrwng er mwyn lansio cyrchoedd i adennill ac ailddatgan honiadau brenhinol. Croesodd arglwyddi Normanaidd y môr i gipio tir oddi ar arglwyddi Gwyddelig, gan arwain at ymosodiad Harri II tua diwedd y ddeuddegfed ganrif a dechreuad canrifoedd lle y gwelwyd y Saeson yn ennill tir ac yn ymyrryd yn Iwerddon. Heb os, yr un gwaethaf o'r rhain oedd pan ymosododd Oliver Cromwell gyda'i Fyddin Model Newydd ym 1649, gan achosi'r dioddefaint a'r dinistr mwyaf gyda'i gadfridogion. Gorymdeithiodd Cromwell ar hyd arfordir dwyrain Iwerddon, gan gipio porthladdoedd a chaerau allweddol, megis Rosslare a Wexford, er mwyn hwyluso'r broses o groesi rhagor o filwyr a chyflenwadau ar draws y dŵr. Roedd porthladd Aberdaugleddau yng Nghymru a'r rhai hynny yn Iwerddon yn nodweddion logisteg hanfodol rhyfel creulon a arweiniodd at newyn, pla, puro ethnig ac alltudio, ac mae wedi gadael ei ôl mewn ffordd dyngedfennol hyd heddiw. Pan fu farw Cromwell, dywedir bod y ddaear wedi gwrthod ei gorff a'i daflu i Fôr Iwerddon, ac mae'r lleoliad hwn yn aml yn aflonydd ar y diwrnodau mwyaf llonydd.
Felly wrth sefyll ar fwrdd y fferi ac edrych allan dros y dŵr, meddyliais am yr hyn sydd oddi tano. Cannoedd o longddrylliadau hysbys ac anhysbys, ynghyd ag eneidiau truenus y rhai a fu farw; boed hynny trwy anffawd mewn amodau peryglus yn ystod yr Oesoedd Tywyll neu yn ystod rhyfeloedd, mor ddiweddar â'r ugeinfed ganrif. You’re trying to make sense of something that you just don’t see, fel y canodd The Waterboys. Ac nid hanes yn unig a welir ym Môr Iwerddon, ond mytholeg hefyd; croesodd Bendigeidfran y môr i Iwerddon gyda'i fflyd i ddial am y ffordd yr oedd Matholwch, Brenin y Gwyddelod, wedi trin ei chwaer, Branwen. Mae'r môr yn cyflawni rôl allweddol yn y Mabinogi ac ym mytholeg Iwerddon hefyd, wrth i Manannán mac Lir, brenin Annwfn a 'mab y môr' groesi'r môr mewn cerbyd rhyfela yn chwedl Imram Brain. Mae'r môr yn rhyfeddu ac yn cyfareddu'r dychymyg llenyddol gymaint ag y mae'n deffro trallodion hanes.
Hoffwn orffen y synfyfyrion hyn trwy gydnabod grymoedd a nodweddion Môr Iwerddon, gan godi fy nghap i'r daith oesol rhwng tiroedd sy'n llawn cysylltiadau hanesyddol, diwylliannol a llenyddol. Mae 'cyfrinachau'r môr' y soniodd y bardd Henry Wadsworth Longfellow amdanynt yn awgrymu byrhoedledd y daith, gan gyffroi ynom berthynas gyda'r morlun y mae'n siŵr bod nifer cyn ein hamser ni wedi ei deimlo. A chan ddychwelyd i Abergwaun o Rosslare ar noson braf o wanwyn, gan deimlo'n syndod o ffres ac effro ar ôl ychydig ddiwrnodau o firi, gwyliais y machlud godidog o fwrdd y llong. Roeddwn yn falch fy mod wedi croesi'r môr, pe bai hynny ond i brofi'r hyn y mae nifer o bobl eraill wedi'i brofi dros y canrifoedd, ac i dalu gwrogaeth i ffordd hynafol o deithio. Er gwaethaf creulondeb rhyfel a bwriad gelyniaethus yr ymosodwyr, mae Môr Iwerddon wedi cynnal ysbrydoliaeth lenyddol, cyfnewid diwylliannol a rhyfeddod naturiol. Yn wir, dyma'r môr ac mae ei offrymau yn niferus.
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw