Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Llythyr gan Johnny a oedd yng Ngwersyll Henham yn Wangford, Suffolk. Yn y llythyr, mae'n gofyn i'w frawd pa fath o swydd sydd ganddo yn Swyddfa'r Rhyfel - "What sort of a job have you at the W.O? Is it a journalistic one?", a gan fod 'Jim' yn gweithio i MI7b fe fyddai wedi gorfod cadw'r wybodaeth hon yn gyfrinachol.Fe fu'r Capten James Price Lloyd o Gatrawd Cymru yn gwasanaethu gyda MI 7b (1) o 1917 hyd nes ei dadfyddino yn fuan wedi'r Cadoediad. MI 7b oedd yr adran Cudd-Wybodaeth a oedd a gofal dros bropaganda yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd y Capten James Lloyd mewn lle da i ysgrifennu am fywyd yn y rheng flaen ag yntau wedi bod yn Ail-lefftenant ag awdurdodaeth dros blatwn o wyr traed ers ymuno a'r fyddin ym mis Chwefror 1915. Cafodd ei glwyfo yn ei glun dde a'i law chwith ym mrwydr Mametz Wood ym mis Gorffennaf 1916 drwy gael ei ergydio gan machine gun ac nid oedd yn gallu cael eu hachub oherwydd y bomio cyson. Tra'n gwella, cafodd ei recriwtio i weithio i MI 7b. Rho'i ddogfennau a'i ffotograffau, ynghyd â'i bapurau personol, olwg unigryw ar ei fywyd teuluol fel mab hynaf Rheithor Aberedw, pentref ger tref marchnad Llanfair-ym-Muallt ym Mhowys, Cymru.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw