Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

EDWARD WYATT GOULD
hanes neidiwr clwydi

fel y’i hadroddwyd gan Pamela Joy Harvey, wyres Edward Wyatt Gould, a Gareth David Lloyd Harvey, gor-ŵyr Edward Wyatt Gould

F’enw i yw Pamela Joy Harvey. Ganed fi yn 1945 ac erbyn hyn rwy’n byw yng Nghaerdydd. F’enw i yw Gareth David Lloyd Harvey. Ganed fi yn 1969 ac rwy’n byw yn y Barri.

Gareth – Rhedodd Edward Wyatt Gould yng Ngemau Olympaidd White City 1908. Roedd yn dod o deulu enwog iawn ym myd chwaraeon a oedd yn hanu o Gasnewydd, sef y teulu Gould. Roedd chwe brawd, tri ohonynt wedi chwarae dros Gymru, a dau ohonynt wedi bod yn gapten Cymru ym maes rygbi. Yr enwocaf ohonynt oedd brawd hŷn Wyatt, Arthur Joseph Gould, a gâi ei alw’n ‘Monkey’ Gould. Mae nifer o straeon i egluro’r llysenw. Un yw ei fod, fel bachgen ysgol, yn arfer dringo coed; ac un arall yw iddo, mewn un gêm, pan oedd yn ifanc iawn, ddringo i ben y pyst a rhoi’r croesfar yn ôl yn ei le. Roedd Arthur ‘Monkey’ Gould yn adnabyddus ar hyd a lled y byd chwarae rygbi. Mae wedi cael ei alw’n seren fawr gyntaf rygbi Cymru ac, yn wir, roedd yn gapten yn 1893 ar y tîm cyntaf erioed o Gymru i ennill y Goron Driphlyg. Roedd un arall o frodyr hŷn Wyatt, Bert Gould, hen ewythr fy mam, hefyd yn y tîm hwnnw.
Yn 2007, cafodd Arthur Gould ei sefydlu yn Neuadd Enwogion Chwaraeon Cymru, a daeth llawer o’r teulu i’r digwyddiad.

Pamela – Daeth fy mam i lawr ac roedd yn wych. Daeth fy mrawd a’m chwaer yng nghyfraith â hi i lawr, ond roedd problemau ar y draffordd ac, yn llythrennol, fe gyrhaeddon nhw a dod i’r tŷ, roedd hi eisiau mynd i’r tŷ bach, fe gawson nhw ddiod sydyn, a throi rownd a mynd ymlaen i Neuadd y Ddinas. Roedd yn anhygoel, ac fe wnaeth hi hynny’n 90 oed.

Gareth – Ac roedd ei brawd, Fraser, yno hefyd, cydnabyddiaeth ragorol i’r teulu Gould, ac yn enwedig i Arthur Gould.

Roedd Joseph Gould, eu tad nhw, â’m hen hen dad-cu i, yn un o’r aelodau a sylfaenodd Newport Athletic Club, felly rhaid eu bod wedi cael eu magu mewn teulu gweddol gefnog. O oed cynnar, cawsant i gyd eu hannog i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ond rhaid bod rhywbeth yn y genynnau, neu yn nŵr Gwent, iddynt fod mor llwyddiannus. Mae’n sicr wedi neidio cenedlaethau; ches i mo’r un doniau! Wedi dweud hynny, mae fy mrawd, Ian Harvey, wedi parhau â’r traddodiad dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi chwarae i Gasnewydd ei hun a hynny, yn wir, gan mlynedd bron i’r union dymor pan oedd ein hen dad-cu Wyatt yn gapten Casnewydd.

Pamela – Mae gen i bedwar mab ac maen nhw i gyd yn chwarae rygbi, maen nhw i gyd yn dda mewn chwaraeon. Rydw i’n un o chwech ac roedd fy chwiorydd i gyd yn dda am redeg. Mae yn y genynnau, yn sicr.

Gareth – Ar ôl ymchwilio i hanes y teulu, mae’n amlwg fod Arthur yn seren fawr yn ei gyfnod. Gyda’r rheilffordd, roedd modd iddo deithio’r Deyrnas Unedig a chystadlu mewn athletau, yn ogystal â rygbi, a châi ei gydnabod ble bynnag yr âi. Câi ei gymharu â WG Grace. Mewn athletau, roedden nhw’n ennill arian. Bu Arthur a Wyatt yn teithio’r DU ac roeddent yn gallu cystadlu ac ennill arian drwy athletau, er eu bod yn dal yn amaturiaid pur fel chwaraewyr rygbi. O ran rygbi, amaturiaid oedden nhw, yn chwarae oherwydd eu cariad tuag at y gamp. Pan ysgrifennai Wyatt Gould am athletau, roedd ei theorïau ynglŷn ag ymarfer a hyfforddi yn cyd-fynd yn agos ag ethos amatur y cyfnod.

Pamela – Gallaf gofio fy nhad-cu, Edward Wyatt Gould. Gallaf ei gofio’n chwarae dwy bêl a thair pêl ac yn rhoi cynnig ar bedair, hefyd, yn erbyn y wal yn ei gartref yn Plymouth, ac rwy wastad yn eu cofio nhw’n sôn am ei goesau hirion. (Gareth – Trueni nad oes pedair pêl yn y Gemau Olympaidd, neu byddech chi yno!) Roedd yn hoffus iawn, yn garedig iawn, fel rwy i’n ei gofio.

Gareth - Yng Ngemau Olympaidd 1908, yn y 400 metr dros y clwydi, cyrhaeddodd y rownd gynderfynol gan ddod yn drydydd ynddi. Yn ôl a ddeallaf, dim ond enillwyr y pedair ras gynderfynol oedd yn mynd i’r ffeinal. Roedd yn bencampwr athletau am nifer o flynyddoedd yng Nghymru, gyda Chymdeithas Athletau Amatur Cymru am, rwy’n meddwl, ddeng mlynedd gyntaf yr ugeinfed ganrif. Enillodd ar ryw chwe achlysur, rwy’n meddwl. Mae’r medalau hynny i gyd gennym, sy’n hyfryd. Mae gennych chi un o’r medalau, yn d’oes?

Pamela – Oes, medal 3As Sir Fynwy. Rwy’n cofio’r adeg y rhoddodd fy mam hi imi. Dywedodd, “Mae wastad wedi bod o dan y gwely”, ac un diwrnod gwisgais hi, a llenwodd ei llygaid â dagrau. Dywedodd, “O, mae’n hyfryd ei gweld yn cael ei defnyddio”.

Gareth – Yr un peth a fu o ddiddordeb i mi erioed yw i Wyatt ennill yr holl deitlau Cymreig hyn ac, rwy’n meddwl, deitlau’r DU, ar y 120 metr dros y clwydi, ond eto, yn y Gemau Olympaidd, byddai’n cystadlu yn y 400 metr dros y clwydi. Wn i ddim pam oedd hynny. Rwy’n tybio y byddai efallai wedi cyrraedd y rownd derfynol neu wedi gwneud ychydig yn well pa bai yn y 120 metr dros y clwydi, lle’r oedd ganddo record dda o lwyddiant.
Ysgrifennodd fy hen dad-cu am hanes athletau yn y llyfr, Newport Athletic Club History, 1875-1925, ac wrth sôn am Gemau Olympaidd 1908, gwnaeth hynny mewn ffordd gynnil iawn, ac rwy’n ei barchu am hynny, ac rwy’n hoffi meddwl fy mod innau hefyd yn arddel yr agwedd a’r ffordd honno.
Rydym i gyd wedi gweld y ffilm, Chariots of Fire, sy’n sôn am Gemau Olympaidd 1924. Roedd pethau’n hamddenol iawn, yn ôl pob golwg, yn y dyddiau hynny – champagne ar y clwydi, fel petai. Ond, wrth edrych ar amserau’r athletwyr, nid yw’r cloc yn dweud celwydd. Yn amlwg, mae’r offer – y sgidiau a’r sbigynnau – wedi gwella, ac mae technoleg y trac wedi gwella, felly rhaid eu bod nhw’n athletwyr â dawn naturiol i allu gwneud yr amserau a wnaent.
Mae’r mudiad Olympaidd, heddiw, yn wych. Mae’r unfed ganrif ar hugain fel rhyw bentref byd-eang, ac mae gweld y Gemau Olympaidd yn dod â phobl ynghyd mewn cytgord a heddwch drwy chwaraeon yn gwbl arbennig. Soniodd Mam fod Wyatt yn ddyn caredig ac addfwyn iawn, ac rwy’n siŵr y byddai’n cofleidio ethos y teulu Olympaidd heddiw, fel y gwnaeth yn 1908.

Gareth – Ganed ef yn 1879 felly roedd oddeutu 30 pan fu’n cystadlu yn y Gemau Olympaidd, a symudodd yn 1928 i Plymouth. Beth oedd ei waith? Ble’r oedd e’n gweithio?

Pamela – Yn yr adeilad Cymreig, lawr yn y dociau.

Gareth – Fe oedd rheolwr y dociau, ie, ar gyfnod prysur iawn pan oedd Caerdydd yn frenin allforio’r byd o safbwynt glo?

Pamela – Rwy’n credu mai dyna pam y symudodd i Plymouth.

Gareth – Dociau llyngesol oedden nhw. Y flwyddyn y gadawodd Gasnewydd, gwnaeth Newport Athletic ef yn Llywydd Anrhydeddus mewn cydnabyddiaeth o’i wasanaeth i’r Clwb, a’i gyfraniad i rygbi ac athletau yn arbennig. Roedd hynny’n weithred hyfryd, rwy’n meddwl.

Pamela – Roedd fy mam yn falch iawn ei bod yn Gymraes, ac rwy’n siŵr i hynny ddod oddi wrth Wyatt, ei thad.

Gareth – Roedd y Goulds yn enghraifft o Dde Cymru ddiwydiannol, y dylifiad o entrepreneuriaid a gweithwyr. Deuai Joseph Gould, fy hen hen dad-cu, o Swydd Rydychen, ac mae’r ffaith i’m mam ddweud mor falch oedden nhw, o fewn cenhedlaeth, eu bod yn Gymry yn enghraifft arall o’r ffordd yr oedd y Gymru newydd yn esblygu. Ac roedd chwaraeon yn un ffordd o fynegi’r Cymreictod hwnnw.

Pamela – Arhosodd yn Plymouth nes iddo farw. Rwy’n cofio mynd yno’n ferch fach, gyda’m mam, i weld fy nhad-cu a’m mam-gu, ac yntau’n mynd â ni allan. Roeddwn i’n hoff iawn o chwarae tennis a byddai’n chwarae tennis gyda mi.
Arferai Mam siarad am Wyatt a’i redeg, ond wyddwn i ddim bryd hynny – dydych chi ddim yn cymryd llawer o sylw pan ydych yn iau – am yr hyn yr oedd wedi’i gyflawni. Dim ond yn ddiweddarach, mae’n debyg, wrth i Gareth chwilio i’r hanes. Rwyt wedi ymchwilio i achau’r teulu, yn dwyt?

Gareth – Ond roedd Mam-gu wastad yn dweud i Wyatt fynd i’r Gemau Olympaidd, yn ‘doedd?

Pamela – Oedd, ond nid pan oeddwn i’n iau. Roedd hi’n siarad mwy â’i hwyrion nag a wnâi â mi.

Gareth – Roedd wastad yn rhywbeth cynnil, fel mae Mam wedi sôn. Rwy’n credu ei bod yn wych eich bod yn ein cyfweld ni heddiw ac y caiff ef ei gydnabod wrth ddathlu Gemau Olympaidd 2012. Ac rwy’n gwybod y byddai Mam-gu – a fu farw’n weddol ddiweddar, yn anffodus – yn edrych i lawr arnom ac yn teimlo’n eithriadol o falch fod ei thad yn cael ei ddathlu ac, fel teulu, rwy’n credu mai dyna’r oll y byddem yn dymuno amdano.

Pamela – Mae’n gwneud ichi feddwl. Roedd gan Wyatt frawd hŷn oedd yn chwaraewr rygbi da iawn, ac roedd y brodyr i gyd yn dda am chwarae rygbi, felly roedd yntau’n chwarae rygbi, ond roedd hefyd yn dda mewn athletau. Efallai na chafodd hynny gymaint o sylw oherwydd y rygbi.

Gareth – Ie, rwy’n siŵr eich bod chi’n iawn. Mae sylw wedi bod ar rygbi erioed yng Nghymru, a dim ond nawr, wrth ddathlu’r Gemau Olympaidd, y mae golau’r ffagl, os mynnwch chi, yn cael ei daro ar Wyatt.

Pamela – Mae’n gwneud imi deimlo’n falch iawn, o feddwl yn ôl.

Gareth – Pan oeddwn i’n ifanc, daeth Jack Gould, mab Arthur, i ymweld â’m modryb yng Nghaerdydd, a dywedodd nifer o straeon wrthym am y brodyr, yn cynnwys Wyatt. Y noson honno – doeddwn i ond rhyw ddeuddeg oed – es adre a’u cofnodi i gyd ar bapur. Dyma ddywedodd Jack Gould: “Roedd Wyatt Gould yn dipyn o gymeriad. Pan oedd ei chwaer, oedd yn hoffi’r bechgyn, yn dod adre gyda llawer o fechgyn gwahanol – dyna rywbeth arall sydd wedi para yn y genynnau, ddywedwn i – roedd Wyatt yn arfer chwarae triciau arni. Ar un achlysur, symudodd bopeth o ystafell yn y tŷ lle’r oedd ei chwarae yn mynd i groesawu’r bachgen – y dodrefn, y carped, popeth. Pan ymddangosodd y ddau a cherdded i mewn a gweld nad oedd dim byd yno, dywedodd Wyatt, ‘Allen ni ddim cadw’r beilïau draw ddim hwy!’” Dro arall: “Gwisgodd Wyatt amdano fel hen fenyw ac aeth at ei fam a dweud wrthi bechgyn mor ddrwg oedd ei meibion. Daliodd ati i siarad â hi, yn tynnu’i choes am ryw hanner awr, nes iddi sylweddoli mai ei mab ei hun oedd yr hen fenyw!”

Pamela – Roedd ganddo synnwyr digrifwch, yn doedd?

Gareth – Atgofion hapus iawn?

Pamela – O, ie, gwirioneddol hapus.

Gareth – Roedd Mam-gu’n dwlu ar ei thad, yn doedd?

Pamela - O oedd, roedd Mam yn addoli Wyatt. Roedd hi’n hoff iawn, iawn ohono.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw