Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

HELEN MORGAN
hanes chwaraewr hoci

Helen Morgan oedd fy enw i pan ddechreuais yn y Gemau Olympaidd; Helen Grandon yw erbyn hyn. Cefais fy ngeni ar 20 Gorffennaf 1966 ac ar hyn o bryd rwy’n byw ym Mhorthcawl. Rwy’n lwcus iawn; cefais fy magu mewn teulu oedd yn hoff iawn o chwaraeon a chefais lawer iawn o gefnogaeth, gyda fy rhieni yn mynd â fi i gemau, ac ati. Mae fy mam yn saethu hyd at safon dda iawn gyda gwn aer; yn wir, mae’n dal i wneud hynny heddiw, yn 70 oed. Mae fy nhad yn ddyfarnwr a hyfforddwr pêl-droed, ac wedi cymhwyso’n llawn yn y naill elfen a’r llall.

y grym gyrru
Roeddwn yn 13 oed pan ddechreuais chwarae hoci. Roedd fy athrawes hoci yn yr ysgol, Mrs Jackie Williams, yn chwarae i Glwb Hoci Merched Abertawe. Hi oedd fy mentor. Roedd yn gofalu amdanaf, yn mynd â mi i gemau ac yn fy hyfforddi. Roedd hi’n athrawes newydd i’r ysgol, ac roedd yn llawn brwdfrydedd. Gofynnodd a fyddai unrhyw un yn hoffi dechrau chwarae hoci ac, yn y sesiwn gyntaf, roedd 34 o ferched ar y cae. Mae Mrs Williams yn dal yn ffrind heddiw; mae’n byw yn ne Sbaen, a byddaf yn ymweld â hi yno’n aml. Roedd yn ddylanwad enfawr ar fy ngyrfa; hi oedd y grym gyrru. Roeddwn yn dair ar ddeg pan chwaraeais ym Mhencampwriaeth Clybiau Ewrop yn Barcelona. Fi oedd y person ieuengaf erioed i chwarae yng Nghwpan Ewrop. Teithiais ar hyd a lled y byd gyda’r tîm i gystadlu; rwy wedi bod i lefydd fel Awstralia a Seland Newydd gyda thîm Prydain Fawr, a hefyd i America, ac i lawer o wledydd Ewropeaidd fel yr Iseldiroedd, Ffrainc, Sbaen, Awstria, y Swistir. Rwy wedi chwarae mewn Cwpan Byd; rwy wedi chwarae mewn Cwpan Ewropeaidd, ym Mhencampwriaethau Clybiau Ewrop; a hefyd yn y Pedair Gwlad. Enillais lawer o fedalau unigol fel Chwaraewr y Twrnamaint a hefyd fel Gôl-geidwad y Twrnamaint. Ond, yr un sy’n sefyll allan yn fy meddwl, yn amlwg, yw Gemau Olympaidd Barcelona yn Sbaen yn 1992.

gêm fawr y fedal
Wyth wythnos cyn yr oeddem i fod i deithio i Seland Newydd i gystadlu yn Nhwrnamaint Cymhwyso’r Gemau Olympaidd, rhwygais linyn y gar a bu rhaid imi gael triniaeth ddwys. Cafodd y cyn bêl-droediwr proffesiynol, Jamie Redknapp, anaf tebyg, a chafodd y ddau ohonom driniaeth yn yr un ganolfan. Roeddwn yn meddwl o ddifrif fod fy nghyfle wedi mynd ac roeddwn yn isel iawn, iawn, ar y pryd, ond des yn ffit mewn pryd i fynd i’r digwyddiad yn 1990, ddwy flynedd cyn y flwyddyn Olympaidd. Fi oedd yr unig chwaraewr o Gymru yn y tîm ar y pryd, ond, ar ôl inni gymhwyso, daeth tair arall o Gymru i mewn. Wedyn, daeth yn bryd dethol y garfan. Yn anffodus, nid oedd lle i’r tair arall, ond roeddwn i’n falch iawn, yn dawel bach, fy mod wedi dyfalbarhau a llwyddo i ddod drwy’r trafferthion.
Roeddwn i yn mynd yn nerfus yn chwarae, yn enwedig yn y Gemau Olympaidd, ond rhaid imi ddweud i’r clwb yr oeddwn yn chwarae iddo, Abertawe, fod yn bencampwyr Cymru o leiaf chwe gwaith, ac roedd y chwaraewyr o’m cwmpas yn chwarae mewn llawer o dimau rhyngwladol, felly, fyddwn i ddim yn dweud ein bod wedi arfer ennill ond roeddem yn sicr yn hyderus iawn wrth fynd i gemau. Serch hynny, roedd fy nerfau ar eu gwaethaf yng Ngemau Olympaidd Barcelona. Roedd yr wyth tîm gorau yn y byd yn cystadlu yno.
Fi oedd y dewis cyntaf fel gôl-geidwad ond, wrth fynd i’r Gemau Olympaidd, collais y statws hwnnw a mynd yn ail ddewis, felly ni chwaraeais yn y gemau cymhwyso, a ninnau’n chwarae yn erbyn yr Iseldiroedd, Seland Newydd a Corea. Fe enillon ni ddwy o’r tair gêm hynny, a mynd drwodd i’r rownd gynderfynol. Y gôl-geidwad arall, Jo Thompson o Loegr, a chwaraeodd yn y gêm gynderfynol hefyd ac, yn anffodus, fe gollon ni i’r Almaen. Cefais i fy newis wedyn ar gyfer gêm fawr y fedal. Er inni ennill 4-3 mewn amser ychwanegol, rwy’n credu ei bod yn siom mawr i mi, yn mynd yno fel y dewis cyntaf ond ddim yn cael y cyfle i chwarae yn y gemau cymhwyso. Ond pa well gêm i chwarae ynddi na gêm y fedal ar y diwedd! Wrth gofio’n ôl, rwy’n gweld y cloc mawr o’m blaen yn araf dicio 25 eiliad, 24 eiliad, 23 eiliad – dyna 23 eiliad hiraf fy mywyd – ac yna, ar ôl i’r corn seinio ar y diwedd, gweld pawb ar y cae un ai’n llawn siom neu, yn ein hachos ni, yn gorfoleddu, pawb yn cofleidio’i gilydd, yn gweiddi, eu breichiau yn yr awyr a llawer o ferched yn crïo. Rwy’n credu ei fod yn rhyddhad enfawr; roedd yn dwrnamaint hir ac roedd llawer o bobl yn credu na fyddem yn gwneud yn dda o gwbl, ond roedden ni’n gwybod ym mêr ein hesgyrn y gallem ennill medal. Yn amlwg, byddai wedi bod yn wych ennill yr aur, ond roeddem wrth ein bodd gyda’r efydd.
Mae’r Gemau Olympaidd yn ddigwyddiad mawr iawn. Mae’n unigryw. Oni bai ichi fod i un, ni allwch egluro’r awyrgylch. Gallwch chwarae dros Gymru yn nhwrnameintiau’r Gwledydd Cartref ac efallai mai dim ond cwpl o filoedd fydd yn y dyrfa ond, yn y Gemau Olympaidd, rydym yn sôn am ddeg ar hugain neu ddeugain mil o bobl yn eich gwylio’n chwarae hoci, sy’n rhywbeth nad oeddwn erioed wedi’i brofi o’r blaen. Roedd dim ond cerdded allan ar y cae y diwrnod hwnnw a gweld yr holl bobl hynny yn ddigon i wneud i’ch stumog gorddi. Wnaiff dim byd guro hynny.
Roedd cerdded ar y podiwm hefyd yn rhywbeth nad oeddwn yn gyfarwydd ag ef. I lawer o’r chwaraewyr eraill yn y tîm, gydag un ai Loegr yn ennill twrnameintiau’r Pedair Gwlad, neu ferched yr Alban yn gwneud yn dda iawn mewn cystadlaethau clwb, nid oedd hyn yn brofiad unigryw. Ond i mi, roedd yn rhywbeth newydd, er fy mod wedi ennill medalau unigol am fy mherfformiadau. Ni wnes sylweddoli’n iawn ein bod wedi ennill medal efydd Olympaidd nes imi gyrraedd yn ôl i Gymru lle’r oedd camerâu a gohebwyr yn disgwyl amdanaf. Roedd yn wirioneddol wych ac yna, rhyw ddwy neu dair wythnos yn ddiweddarach, dechreuais sylweddoli beth yr oeddem wedi’i gyflawni mewn gwirionedd.
Dyna oedd cyfnod mwyaf cofiadwy a llwyddiannus fy ngyrfa, yn ennill medal efydd Olympaidd. Fi oedd yr unig ferch o Gymru yng ngharfan Prydain Fawr, a’r unig berson o Gymru i ddod adref â medal o Gemau Olympaidd Barcelona yn 1992, ac rwy’n falch iawn, iawn, o hynny.

cymryd rhan
Pan oeddwn yn 27, ychydig ar ôl y Gemau Olympaidd, chwaraeais mewn gêm bêl-droed elusennol gyda llawer o enwogion. Roedd hyfforddwr pêl-droed Menywod Cymru yn y gêm a gofynnodd imi ddod i chwarae mewn treial pêl-droed ar gyfer Cymru. Cefais fy nethol fel canolwr a bûm yn gapten pêl-droed menywod Cymru am ddau dymor. Yn anffodus, cefais anaf dychrynllyd i’m pigwrn yn 1993 a daeth hynny â’m gyrfa i ben.
Roeddwn am roi rhywbeth yn ôl. Roeddwn yn dal i allu hyfforddi, felly enillais fy holl gymwysterau hyfforddi ym maes pêl-droed a datblygais ysgol bêldroed. Rwy’n ceisio annog hoci yn fy ysgol, Ysgol Gynradd Bracla, a hefyd mewn unrhyw ddigwyddiadau y gallaf fynd iddynt i hyrwyddo’r gêm. Rwy’n ceisio bod yn llysgennad os medraf. Bûm hefyd yn hyfforddi gôl-geidwaid tîm Cymru, am oddeutu 10 mlynedd, ond rwy’n credu fod y gêm wedi symud ymlaen ers pan oeddwn i’n chwarae; mae lawer yn gyflymach. Nawr, mae’n braf mynd i gemau i wylio.
Rwy’n ceisio annog plant i gymryd rhan oherwydd mae’r cymryd rhan yn bwysig, nid oes rhaid ennill bob amser. Y peth pwysig yw mwynhau’r hyn yr ydych yn ei wneud a dysgu. Fy nghyngor i blant bob amser yw, “Chwaraewch i fwynhau”, oherwydd, os ydych yn mwynhau rhywbeth, byddwch yn dysgu.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw