Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

RUSSELL WILLEY
hanes pŵer godwr

Russell Willey yw f’enw. Cefais fy ngeni ar 17 Tachwedd 1963 ac rwy’n dod o Ben-y-bont ar Ogwr. Yn Altrincham ym Manceinion y cefais fy ngeni. Mae fy rhieni’n dod o Gasnewydd, ond, tua chwe mis cyn imi gael fy ngeni, symudodd y teulu i Fanceinion oherwydd gwaith fy nhad. Ganwyd fi ym Manceinion ond rwy’n bendant yn ystyried fy hun yn Gymro. Fe symudon ni lawer pan oeddem yn blant a, maes o law, fe setlon ni yn y Barri, pan oeddwn tua wyth oed, ac yno fwy neu lai y ces i fy magu. Roedd gen i hawl felly i gynrychioli Cymru neu Loegr ond dewisais gynrychioli Cymru.

fi ydw i erioed

Pan ges fy ngeni, roedd spina bifida arna i – anffurfiad ar y cefn. Roeddwn yn lwcus i gael fy ngeni ym Manceinion oherwydd, ar y pryd, roedd y niwrolawfeddyg gorau yno, a gwnaeth lawdriniaeth ar fy nghefn ac, o ganlyniad, nid oedd y difrod i’m haelodau cynddrwg efallai ag y gallai fod. Does gen i ddim profiad o ddim byd arall, wyddoch chi. Fi ydw i erioed ac rwy wastad wedi cerdded ar faglau neu wedi defnyddio cadair olwyn. Does gen i ddim profiad o ddim byd arall.

Cymerodd fy rhieni agwedd bragmatig iawn, rwy’n meddwl, yn gynnar iawn. Roedden nhw’n meddwl, “Mae’n fyd caled allan fan yna”, ac fe benderfynon nhw na fyddent yn fy nhrin yn wahanol i unrhyw un arall. Os oeddwn yn fy nghadair olwyn, fydden nhw ddim yn fy ngwthio oherwydd roedd rhaid imi wthio fy hun. Roedden nhw wastad yn fy annog i gerdded. Pan oeddwn yn ifanc iawn, er bod gen i gadair olwyn, anaml y byddent yn gadael imi ei defnyddio. Wnaeth fy mrawd a’m chwaer erioed fy nhrin yn wahanol, chwaith. Roeddwn i a’m chwaer yn arfer ymladd fel cath a chi, fel y rhan fwyaf o frodyr a chwiorydd, mae’n siŵr. Unig anfantais hyn oll oedd bod rhaid imi fynd i ysgol breswyl ym Mhenarth, Erw’r Delyn, felly, o’r adeg pan oeddwn tua phump oed, roeddwn yn lletya yn ystod yr wythnos. Roedd hynny braidd yn drawmatig, gyrru i lawr o Bont-y-pŵl ar nos Sul. Rwy’n dal i gofio fy stumog yn troi, yn gwybod y byddwn yn aros yno ar y nos Sul ac y byddwn yno tan ddydd Gwener, pan fyddai ’nhad yn dod i’m nôl ac, yn ddieithriad, byddem yn mynd i pysgota neu rywbeth felly, ac yna’n mynd adref. Roeddwn yn dwlu ar y penwythnosau. Fe symudon ni i Birmingham ddwy flynedd yn ddiweddarach ac roedd hynny’n rhyddhad mawr oherwydd des yn ddisgybl dydd. Wedyn, pan ddaethom yn ôl i’r Barri, roeddem yn agos at Benarth, felly roeddwn yn ddisgybl dydd yno hefyd a mwynheais hynny.

Rwy’n swnio braidd yn negyddol am ysgolion arbennig. Mae lle iddyn nhw, ac, o ran dysgu sgiliau annibynnol, roedd yn hollol wych. Hynny yw, roeddem yn cael ein hannog i wisgo amdanom ein hunain ac ymolchi a phopeth felly. Ac, yn wir, drwy fod mewn ysgol arbennig y ces fy nenu at chwaraeon. Pe bawn wedi bod mewn ysgol gyfun brif ffrwd, efallai na fyddwn wedi cael y cyfle hwnnw. Roedd yr ysgol yr oeddwn i ynddi yn arfer cynnal diwrnodau chwaraeon, a dyna sut dechreuais i wneud chwaraeon … felly alla i ddim bod yn rhy negyddol amdani.

Roedd y rhai oedd yn ennill eu cystadlaethau ar ddiwrnod chwaraeon yn mynd ymlaen i gynrychioli’r ysgol ym Mhencampwriaethau Cymru yng Ngerddi Sophia; wedyn roedd y rhai a enillai yno yn mynd i Bencampwriaethau Prydain yn Stoke Mandeville. Cefais fy nghyfle cyntaf, mewn athletau, yn 1976 – cystadlaethau maes, cystadlaethau trac, amrywiaeth eang o bethau. Es drwy’r ysgol yn cynrychioli Cymru yng Ngemau Cenedlaethol Stoke Mandeville yn 1976, ’77, ’78 a ’79. Ychydig cyn inni adael yr ysgol yn 1980, roeddem yn siarad â ffisiotherapydd yn Erw’r Delyn a thynnodd ein sylw at y clwb chwaraeon yn yr uned anafiadau asgwrn cefn yn Ysbyty Rookwood, yn agos at Gaerdydd, lle, dywedodd, y gallem efallai barhau â’n camp. Dydw i ddim yn meddwl inni gael croeso arbennig o gynnes, a bod yn onest. Mae llawer o wahaniaethu o fewn y byd anabledd yn erbyn pobl ag anabledd cynhenid. Nid yw pobl ag anabledd caffaeledig o reidrwydd yn hoffi cael eu cysylltu â phobl ag anabledd cynhenid - mae llawer o hynny’n digwydd.

Felly, pan drois i a’m dau ffrind – pob un ohonom â spina bifida – i fyny yng Nghlwb Chwaraeon Paraplegig a Thetraplegig Rookwood, ni chawsom groeso arbennig o gynnes, i ddechrau. Roedd ganddyn nhw i gyd anafiadau ac roeddent yn ystyried eu hunain yn wahanol iawn i ni. Rhoddwyd tri mis inni i brofi ein hunain, a buan iawn y rhoddodd fy nau ffrind y gorau iddi, ond roeddwn i’n reit benderfynol o brofi mod i o ddifrif. Wedi dweud hynny, roedd un neu ddau o unigolion yno a ddywedodd wrthyf nad oedd fy nghorffolaeth yn gweddu’n dda iawn i athletau, ac awgrymasant mod i’n rhoi cynnig ar godi pwysau, felly meddyliais, “Iawn, fe ro i gynnig arni”, a chymerais at y gamp ar f’union.


pŵer godi

Roeddwn yn naturiol yn gryf iawn. O’u cymharu â gweddill fy nghorff, mae fy mreichiau’n reit fyr ac mae gen i frest fawr, felly, wrth wthio pwysau oddi ar y fainc, does dim rhaid imi wthio’r pwysau’n bell iawn. Roedd y bois oedd yn codi pwysau ychydig bach yn fwy croesawgar; roeddent yn dangos mwy imi, pobl fel John Harris, Steve Haines. Felly, profais fy hun a bûm yn cystadlu yn fy nghystadleuaeth Gymreig gyntaf yn 1981, gan ennill. Roeddwn wedi gosod targed imi fy hun. Roeddwn wedi dweud na fyddwn yn cystadlu nes gallwn i godi 100 kilo. Fe gyrhaeddais y gystadleuaeth a chodi 115 kilo, sy’n naid reit drawiadol o’r hyn yr oeddwn yn ei wneud wrth ymarfer. Roedd cylchdaith o ddigwyddiadau, ac wrth ichi fynd o amgylch y gylchdaith, mae aelodau tîm Prydain yn sylwi arnoch. Dechreuodd pobl sylwi arna i. Bryd hynny, allwn i ddim cystadlu ym Mhencampwriaethau Prydain gan fy mod yn y coleg a’u bod yn gwrthdaro a’m harholiadau, felly, am ddwy flynedd, ni allwn wneud hynny.

Yn 1982, es draw i wylio. Rhoddais arddangosiad bach i’r hyfforddwr a dywedodd, “Clyw, mae rhywun wedi tynnu allan o dîm Prydain ac rydym yn mynd i Sweden. Fe hoffwn i fynd â ti gyda ni”. Felly, cyn imi hyd yn oed gystadlu ym Mhencampwriaeth Prydain a chyn imi fod yn Bencampwr Prydain hyd yn oed, es i Sweden a chynrychioli Prydain Fawr. Dim ond 18, 19 oed oeddwn i. Serch hynny, mwynheais y profiad yn fawr iawn. Yna, yn 1983, roedd modd imi gystadlu yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol am y tro cyntaf ac euthum ati o ddifrif, gan ymarfer a gosod targedau imi fy hun. Es i’r Pencampwriaethau Cenedlaethol a chwalu pawb! Enillais, curais Bencampwr Prydain ar y pryd o dipyn a chefais fy newis ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop. Aethom drosodd i Baris a datblygodd y cyfan o hynny, a dweud y gwir.

dim champagne i stoke mandeville

1984 oedd fy mhrofiad Paralympaidd cyntaf. Roedd y Gemau i fod i gael eu cynnal yn Champagne, Illinois, ac roedd y Gemau Olympaidd yn Los Angeles. Tan hynny, roedd y Gemau Paralympaidd wedi bod yn ddigwyddiad llawer iawn llai, ac nid oedd cysylltiad yn cael ei weld rhyngddynt â’r Gemau Olympaidd. Tua thri mis ymlaen llaw, tynnodd yr Americanwyr allan gan na allent gael y cyllid, felly, ar y funud olaf un, camodd Sefydliad Chwaraeon Cadair Olwyn Prydain i’r bwlch a chynhaliwyd y Gemau yn Stoke Mandeville. Siom enfawr i ni oherwydd roeddem i gyd yn gyfarwydd â Stoke Mandeville. I ni, roedd yn union fel mynd i Bencampwriaethau Cenedlaethol. A bod yn deg, gwnaeth y trefnwyr yn eithriadol o dda ond ni ddylai pethau fod wedi dod i hynny.

Yn y Seremoni Gloi, yn 1984, rwy wastad yn cofio cynrychiolwyr o Seoul, trefnwyr Gemau 1988, yn dweud mor benderfynol oedden nhw o beidio â siomi pobl, a’u bod wedi penderfynu mai’r un canolfannau yn union fyddai’n cael eu defnyddio ag ar gyfer y Gemau Olympaidd.

ar gopa’r byd ym mharis

Yn 1985, cefais fy anafu felly wnes i ddim cystadlu, ond ailgydiais ynddi yn 1986 ac yna, yn 1987, roeddwn yn gwneud llawer mwy wrth ymarfer, roeddwn yn edrych mwy ar fy niet, roedd y cyfan yn mynd yn llawer mwy proffesiynol. Yn 1987, disgynnais un dosbarth pwysau ac enillais Bencampwriaethau’r Byd ym Mharis yn gwbl annisgwyl. Roedd yn un o’r adegau hynny pan na chafodd rhai o’m cystadleuwyr ddiwrnod da iawn a chefais innau ddiwrnod arbennig, gan ennill yn y diwedd. Roedd hynny’n brofiad gwych, yn enwedig gan fod fy nhad yno yn fy ngwylio; roedd fy chwaer yn byw allan yno ar y pryd, ac roedd fy mrawd yng nghyfraith a’m nai hynaf i gyd yno’n fy ngwylio.

rhyfeddod seoul

Wedyn, fe ddaeth 1988 ac, yn y cylch hwnnw o bedair blynedd, roedd pethau wedi bod yn dwysáu. Roeddem yn cael yr holl addewidion hyn y byddai’r Coreaid yn gwneud pethau’n wahanol i’r Americanwyr, ond dydw i ddim yn credu ein bod yn coelio hynny. Fe hedfanon ni allan a doedd mo’r pethau yr ydym wedi’u cael yn y blynyddoedd ers hynny, ymaddasu i’r hinsawdd a blaen wersylloedd. Roedd rhai ohonom heb fod mewn awyren cyn hired â hynny o’r blaen; wydden ni ddim beth yn y byd oedd lludded jet. A dyma’r tro cyntaf i’r athletwyr Paralympaidd gael yr un cit â’r athletwyr Olympaidd, felly roeddem i gyd yn teimlo’n dda iawn. Fe gyrhaeddon ni Seoul a dod oddi ar yr awyren ac roedd miloedd o bobl yn disgwyl amdanom, yn chwifio baner yr Undeb neu faner Corea. Gwthiodd fy hen ddyn ei ffordd drwy’r dyrfa a dywedodd, “Rwy wedi llwyddo i gael tocyn i’r Seremoni Agoriadol”, ac edrychais arno gan feddwl, “Am beth wyt ti’n sôn?”. Dywedodd, “Maen nhw wedi mynd yn hollol wallgof amdani. Mae’r tocynnau i gyd wedi gwerthu! Mae pob tocyn i’r Seremoni Agoriadol wedi’i werthu!”. Waw! Roedd pobl yn ein stopio i ofyn am ein llofnod yn y stryd.

Anghofia i fyth y Seremoni Agoriadol. Roeddem i gyd yn ein gwisgoedd swyddogol, yn aros ar y trac cynhesu wrth ymyl y stadiwm, a gallem glywed y drymiau, y drymiau mawr hyn, a gallech glywed bwwm, bwwm. Gwelsom y parasiwtwyr yn mynd i’r stadiwm ar gyfer y cylchau Olympaidd, ond ni allem glywed tyrfa. Meddyliom, “Maen nhw wedi’n twyllo ni. Byddwn yn mynd i mewn a bydd yn wag, stadiwm o 90,000 o seddau ac ni fydd neb yno”. Felly, i ffwrdd â ni yn ein timau ac wrth inni ddod allan o’r twnnel, roedd yn eich taro, 70,000, 80,000 o bobl, cwbl anhygoel.

Doedd neb ohonom wedi profi dim byd tebyg yn ein bywydau ac, er fy mod wedi’i wneud ers hynny, rwy wedi’i wneud bedair gwaith ers hynny, dyna’r un sydd wastad ... rwy’n codi’n groen gŵydd nawr, wrth siarad amdano, roedd yn wefreiddiol.

Ar ôl boicotiau 1976, ’80 a ’84, Seoul 1988 oedd y digwyddiad cyntaf mewn tri chylch a oedd o’r diwedd yn mynd i ddod â phawb ynghyd. Roedd llawer o gwestiynau a ddylem fynd allan yno oherwydd y ffordd y maen nhw’n trin pobl ag anableddau, a’u bod yn cael eu hystyried yn ddinasyddion eilradd. Rwy’n credu fod y Coreaid yn awyddus iawn i ddefnyddio’r Gemau Paralympaidd i newid hynny. Roedden nhw am ddweud, “Edrychwch, dyma beth mae pobl ag anableddau yn gallu’i wneud”, i geisio newid meddylfryd eu pobl. Roedd y llefydd aros i gyd yn hygyrch a’r canolfannau i gyd yn hygyrch ac roedd hynny’n gysyniad hollol newydd i’r Coreaid. Fe ddefnyddion nhw’r Gemau Paralympaidd fel cyfrwng i lansio ffordd newydd o edrych ar bobl ag anableddau. Aeth fy nhad allan yno ar ôl hynny, ac roedd wedi gweithio’n dda. Roedd pobl ag anableddau mewn gwaith amser llawn am y tro cyntaf. Rwy’n credu mai dyna yw grym chwaraeon, grym chwaraeon Paralympaidd. Clywais fod y Coreaid a enillodd fedalau yn y Gemau Paralympaidd wedi cael pensiwn am oes. Ac mae’n drawiadol fel y mae tîm Paralympaidd Corea, nawr, 22 mlynedd yn ddiweddarach, yn dal yn rym o bwys yn y byd Paralympaidd ac mae’n siŵr y byddan nhw am byth, a chredaf fod hynny wedi deillio o’r hyn a ddigwyddodd yn 1988.

y gemau paralympaidd yn dod i oed

Rhaid imi ddweud mai fi, o ran y Gemau Paralympaidd, yw ein Colin Jackson neu’n Paula Radcliffe. Rwy wedi bod yn Bencampwr Byd ond dydw i ddim erioed wedi bod yn Bencampwr Paralympaidd. Rwy’n credu fod hynny’n dangos beth sydd mor arbennig am y Gemau Paralympaidd.

Fy hoff Gemau oedd Barcelona yn 1992, er bod fy mherfformiad i yn un siomedig iawn. Des nôl o Seoul ac enillais Bencampwriaethau’r Byd yn 1990 ac yna, es i Barcelona. Doeddwn i ddim wedi cael fy nghuro ers pedair blynedd. Fi sy’n dal y record byd ond ces fy nghuro i’r pedwerydd safle, y safle gwaethaf yn y byd. Seoul oedd man geni’r Gemau Paralympaidd modern ond, yn Barcelona, daethant i oed; profwyd mai nid rhywbeth a fyddai’n digwydd unwaith yn unig mohono. Roeddech yn y ddinas, roedd y canolfannau yn y ddinas, roeddech yn cael cyfle i weld y ddinas, oherwydd, yn aml, dydych chi ddim yn gweld y lle yr ydych ynddo, rydych yn byw mewn swigen. Er bod y seremonïau Agoriadol a Chloi yn llawn yn Seoul, roedd y canolfannau fwy neu lai yn wag. Yn Barcelona, roedd y canolfannau’n llawn; roedd yn wirioneddol wych.

Roedd Atlanta’n siom o safbwynt y Gemau, ond o ran y perfformiad, fe ragorais i. Wnes i ddim ennill medal ond roeddwn yn wirioneddol hapus â’m gwaith. O ran y Gemau, serch hynny, methodd yr Americanwyr unwaith eto.

Pe bai gen i unrhyw beth i’w wneud â’r Pwyllgor Paralympaidd Rhyngwladol, ni fyddwn byth yn caniatáu i’r Americanwyr gynnal Gemau eto. Am y tro cyntaf, cawsant eu rhedeg gan gonsortiwm o bobl fusnes ac nid oeddent wedi ystyried wrth gyflwyno’u cais fod rhaid iddynt redeg y Gemau Paralympaidd hefyd. Erbyn i ni gyrraedd yno, roeddent wedi dechrau dymchwel hanner yr adeiladau. Nid oeddem yn cystadlu yn yr un canolfannau, hyd yn oed.

Roedd Sydney yn wych eto, ond erbyn hynny roedd popeth yn llawer mwy difrifol. Roedd arian Loteri wedi cael ei gyflwyno, felly roedd disgwyliadau mawr ar athletwyr unigol. Yn y ddwy flynedd yn arwain at y Gemau, buom yn mynd yn rheolaidd i Awstralia i gystadlu, felly roeddem i gyd yn gyfarwydd iawn â’r lle, a, chyn inni fynd i Sydney, aethom i wersyll paratoi yn Queensland. Cyferbynnwch hynny â 1988 – y tro cyntaf inni fynd i Corea oedd pan gamon ni oddi ar yr awyren. Yn anffodus, i mi, roedd hynny yng nghyfnos fy ngyrfa. Roeddwn yn 36 oed a meddyliais, “O! na bawn i ddeng mlynedd yn iau …”.

Gwnes y penderfyniad yn 2000 fy mod yn mynd i ymddeol o’m gyrfa Baralympaidd ac o bŵer godi. A gosodais nod i mi fy hun. Gan fy mod wedi fy ngeni ym Manceinion, meddyliais, “Pa well ffordd o ymddeol nag yng Ngemau’r Gymanwlad ym Manceinion?”, felly dyna oedd y targed. Ces fy newis, roeddwn ar fin mynd a rhyw bedair wythnos ymlaen llaw, cefais anaf ac ni allwn gystadlu, felly bu rhaid imi ymddeol yn gynt na’r disgwyl ac roedd hynny’n siom fawr imi.

cyflym a chyswllt llawn

Fel gweithgaredd hamdden, roedd ffrind imi wedi fy annog, gwpl o flynyddoedd yn gynt, i gymryd rhan mewn hoci iâ sled. Roedd tîm yng Nghaerdydd, y Cardiff Huskies, ac rwy’n cofio, cyn imi fynd i Atlanta, i Andy McNulty afael ynof yn Heol y Frenhines yng Nghaerdydd a dweud, “Pryd wyt ti’n mynd i Atlanta, Russ?”. Dywedais wrtho a dywedodd yntau, “Iawn, ffonia fi pan ddei di nôl. Dere i roi cynnig ar hoci sled.”.

Wel, wnes i ddim! Yna, rhyw bythefnos cyn imi fynd i Sydney yn 2000, gafaelodd ynof eto gan ddweud, eto yn Heol y Frenhines, “Pryd wyt ti’n mynd?” A dywedais, “Ymhen pythefnos”, a dywedodd, “Iawn, rho dy rif imi ac fe wna i dy ffonio pan ddei di nôl!” Ac, ar fy ngair, roeddwn wedi bod yn ôl rhyw dridiau pan ffoniodd ac es yn syth yno a rhoi cynnig arni a gwirioni ar unwaith bron, y tro cyntaf un y chwaraeais i ar yr hen lawr sglefrio yng Nghaerdydd. Mae’n gamp gyflym, gyda chyswllt llawn. Roeddwn yn dwlu arni. Yn 2000 yr oedd hynny ac, erbyn hynny, roeddwn yn athletwr yn cael fy noddi gan y loteri ac ynghyd â hynny daw cyfrifoldebau; ni chewch ymrwymo’n llwyr i rywbeth arall, felly defnyddiais hoci sled fel gweithgaredd hamdden am y ddwy flynedd hynny.

Yna, ar ôl ymddeol o bŵer godi, roedd modd imi ganolbwyntio ychydig mwy ar hoci. Ces fy ngalw i garfan Prydain ac, ymhen dim o dro, gwahoddwyd fi i gystadlu ym Mhencampwriaethau’r Byd yn 2004. Daethom yn bumed ar ôl ergydion o’r smotyn yn erbyn neb llai na’r Almaenwyr.

Yn 2005, roeddem yn ceisio cymhwyso i fynd i Gemau Paralympaidd 2006 – oherwydd nid ydym yn un o’r timau dethol – a thorrais fy nghoes mewn gwrthdrawiad ag un o’m chwaraewyr i wrth gynhesu yn y twrnamaint cymhwyso yn Turin ym mis Hydref 2005. Ches i ddim chwarae yn y twrnamaint hwnnw ond fe gymhwyson ni i fynd i’r Gemau, felly, gan fy mod yn rhan o’r garfan, cefais fy newis, cyfle na feddyliais y byddwn yn ei gael byth eto. Rwy’n cofio yn Sydney, cyn imi adael y Seremoni Gloi, imi fynd allan i ganol y cae ac edrych yn fanwl o gwmpas, oherwydd roeddwn yn meddwl “Dyma’r tro olaf y bydda i’n sefyll o flaen cynifer o bobl”. Eisteddais yno yn y gadair olwyn ac edrych o’m cwmpas a chymryd y cyfan i mewn. Ond, yn 2006, yn Torino, ces y cyfle i brofi hynny i gyd eto, ac roedd hynny’n wirioneddol wych.

Roedd y ganolfan yn llawn, 4,000 o bobl, yn enwedig pan oeddem yn chwarae’r Eidalwyr; bod ar lawr sglefrio gyda 4,000 o Eidalwyr yn sgrechian, “Italia, Italia”, ac yna rydyn ni’n sgorio gôl, ac mae’r dyrfa’n mynd yn ddistaw. Aruthrol! Daethom yn seithfed, cystal ag yr oeddem yn disgwyl. Wnaethon ni ddim cymhwyso ar gyfer 2010 ac mae system newydd wedi’i sefydlu erbyn hyn, felly maen nhw’n gobeithio cymhwyso ar gyfer 2014 … ond rydw i wedi ymddeol. Rwy’n 46 oed, nawr. Mae’n waith caled gwthio’ch hun o amgylch llawr sglefrio, yn cael eich clecian gan fechgyn hanner f’oed i.


aberthu popeth

Pan gyhoeddwyd gyntaf fod Llundain yn cael y Gemau Olympaidd, eisteddais ac edrych ar yr hyn yr oedd bechgyn Prydain yn ei wneud ac, ar wahân i un ohonynt, nid oedd neb yn gwneud llawer mwy nag oedden ni yn 2000. Ond, yn realistig, mae’n gymaint o ymrwymiad, ac, wyddoch chi, rwy’n briod nawr, mae gen i ddau o blant. Os oes gennych deulu, rydych yn eistedd ac yn meddwl, “Mawredd, mae chwaraeon yn beth eithriadol o hunanol i’w wneud”, oherwydd, pan fyddaf ar y rostrwm, mae’n gwbl wefreiddiol, mae pobl yn falch ohonoch, ond y person sy’n cael hynny yw chi’ch hun, ac mae’ch teulu wedi aberthu popeth. Pan oeddwn yn blentyn, fy rhieni’n mynd â mi i hyfforddi a mynd â mi i gystadlaethau, ac ar ôl imi briodi gyntaf dim ond ar rai adegau y gallem fynd ar wyliau, pan nad oedd hynny’n tarfu ar yr hyfforddi.


adnodd sy’n cael ei wastraffu

Wrth edrych tua’r dyfodol, rhaid imi gyfaddef fy mod yn poeni y gallai’r swigen fyrstio ar ôl 2012. Ar hyn o bryd mae popeth yn anelu at Lundain a phawb yn disgwyl i Brydain berfformio’n gwbl arbennig, ond rwy’n ei chael hi’n anodd gweld ble mae’r waddol. Rwy’n hynod o siomedig ynglŷn â’r diffyg cyfraniad gennym ni, fel cyn-athletwyr Paralympaidd, wrth baratoi ar gyfer Gemau 2012. Aethom i Sydney yn 2000 i’r blaen wersylloedd a’r Arfordir Euraidd, ac roeddent yn cynnwys eu cyn-athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd yn yr ymgynghori, ac fel gwestywyr, yn gofalu amdanom. Does neb wedi gofyn i ni wneud dim byd felly y tro hwn. Mae tîm Parlympaidd Awstralia yn dod i Dde Cymru; does neb wedi gofyn i neb hyd y gwn i.

Mae yna ddynion yn byw yn Ne Cymru, dynion sydd, fel finnau, wedi bod i Gemau, wedi bod ar y lefel uchaf am flynyddoedd, a chanddynt lawer iawn i’w gynnig. Rwy’n credu ein bod ni’n adnodd sy’n cael ei wastraffu.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw