Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

This content isn't available for download, please contact us.

Disgrifiad

HELEN JENKINS
hanes triathletwr

Roedd fy nhad yn yr RAF, felly roeddem yn symud llawer ar ôl iddynt briodi. Cefais i fy ngeni yn Elgin, yn yr Alban. Fe arhoson ni yno am ryw flwyddyn a hanner, symud wedyn i’r Almaen lle cafodd fy chwaer ei geni, ac yna i Sain Tathan, ger Llanilltud Fawr. Felly, rwy wedi bod yng Nghymru fwy neu lai ers oeddwn tua phedair oed. Es drwy’r ysgol a chael fy addysg i gyd yng Nghymru, a symudais i Ben-y-bont ar Ogwr, gwpl o flynyddoedd wedi hynny.

Saeson yw fy mam a ’nhad ond rwy wedi bod yng Nghymru cyhyd fel mod i’n teimlo’n Gymraes. Dim ond dros Gymru yr ydw i erioed wedi cystadlu, Ysgolion Cymru, y Sir, Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad. Mae’r cwestiwn wastad yn codi; os ydych eisiau cystadlu dros Gymru maen nhw’n dweud, “Wel, ges di dy eni yno?”, ac rydych yn meddwl, rwy wedi byw yma’n hirach na llawer o’r athletwyr sy’n cystadlu dros Gymru, felly, lle rydych chi’n byw sy’n cyfri, ynte? A, hefyd, sut rydych chi’n teimlo. Hynny yw, allwn i byth ddweud fod fy chwaer yn Almaenes.

fy nghyflwyniad
Roedd fy mam a ’nhad yn awyddus imi nofio, felly fe aethon nhw â fi i gael gwersi o’r adeg pan oeddwn yn fabi, ac roeddwn wrth fy modd. Roedd un o’r athrawon wedi ennill medal aur yng Ngemau’r Gymanwlad, yn y dull broga, gwelodd fel gennyf rywfaint o botensial a chynghorodd fi i ymuno â’r clwb nofio.

Fe wnes i ambell i driathlon pan oeddwn yn ifanc iawn, tua 11 neu 12. Roedd fy nhad yn eu gwneud felly fe wnes i ambell un. Doedd gen i ddim llawer o ddiddordeb, a dweud y gwir. Yna, pan oeddwn yn 16, roeddwn yn adnabod y ferch yma, ei thad hi oedd hyfforddwr Cymru yn y triathlon, a doedd ganddyn nhw ddim athletwyr ifanc ar y pryd. Roedd Mark (Jenkins) yn cystadlu ar lefel ryngwladol, a Sian Brice, Anneliese Heard, ond doedd dim pobl ifanc yn dod drwodd. Roedd cystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Iwerddon ac roedd angen pobl arnynt i fynd yno, felly dywedodd Chris Gouldon o’r pwll nofio: “Oes unrhyw un am wneud triathlon?”. Aeth â ni lawr i stad ddiwydiannol Pen-y-bont ac fe redon ni o’r fan honno, ac rwy’n credu mai’r tair merch gyflymaf a’r tri bachgen cyflymaf a aeth ar y trip. Fel mae’n digwydd, fe enillais i’r gystadleuaeth yn Iwerddon. Dim ond rhyw chwe pherson oedd ynddi, ond dyna oedd fy nghyflwyniad.

Enillais y ras gyntaf honno ac, wedyn, roedd un ar ddiwedd y flwyddyn, yn Ffrainc. Aeth fy nhad â mi allan ar y beic ac roeddwn yn anobeithiol oherwydd mae rhaid ichi ddefnyddio pedalau cleddu yn hytrach na dim ond reidio yn eich sgidiau ymarfer fel y gwnes i yn fy ras arall. Allwn i ddim yfed wrth feicio; roedd rhaid imi stopio ar dop y rhiwiau. Es i Ffrainc – mae ganddyn nhw gylchdaith triathlon broffesiynol yno – ac roedd y plant i gyd yn anhygoel. Roedden nhw’r un oedran â fi ac roeddent i gyd fel cystadleuwyr proffesiynol. Roeddwn wedi rhyfeddu a meddyliais, “Iawn, rydw i am fod cystal â’r criw yma”. Rwy’n meddwl mai dyna wnaeth droi pethau i mi. Wedyn, y flwyddyn ddilynol, enillais holl rasys Prydain, a chefais ychydig o gyllid gan Elite Cymru a fu’n help mawr i gael beic newydd, oherwydd roeddwn i’n reidio hen ffrâm ddigon clonciog.

Uchafbwyntiau
Roeddwn wastad yn reit dda fel cystadleuydd iau; fe wnes yn iawn yn y DU a’m canlyniad gorau oedd pumed ym Mhencampwriaethau Iau’r Byd. Roeddwn wedi gadael yr ysgol a doedd gen i ddim llawer o awydd mynd i’r brifysgol ar unwaith. Roeddwn wedi cael digon ar astudio a hyfforddi, felly dim ond hyfforddi wnes i am sbel, a meddyliais, “Fe ro i rai blynyddoedd i hyn”. Doedd 2004 ddim yn flwyddyn neilltuol a meddyliais, “2005. Caf weld beth sy’n digwydd”, a bues yn ymarfer yn wirioneddol dda dros y gaeaf. Wedyn, yn fy Nghwpan Byd cyntaf ym Manceinion, cyrhaeddais y podiwm, a dod yn drydydd. Roedd hynny’n ysgogiad mawr imi. Roedd cael rhywfaint o arian gwobrwyo, hefyd, yn hwb enfawr gan fod Mark a minnau newydd brynu ein tŷ cyntaf. Uchafbwynt 2008 fyddai pe bawn i’n ennill Pencampwriaethau’r Byd. Rwy’n meddwl mai ym mis Mehefin oedden nhw a, thair wythnos cyn hynny, roeddwn wedi ennill fy lle i fynd i’r Gemau Olympaidd, rhywbeth nad oedd disgwyl imi ei wneud mewn gwirionedd. Roeddwn wedi treulio 2007 ar ei hyd wedi f’anafu, doeddwn i ddim wedi rasio, ac roedd fy Ffederasiwn yn meddwl, “Wnaiff hi ddim ennill ei lle”, ond fe roddais i bopeth yn y ras honno a gorffennais yn ail. Y nod oedd bod yn y pump uchaf ac roedd croesi’r llinell derfyn fel y Brydeinwraig gyntaf yn un o’r munudau mwyaf pleserus. Roeddwn yn profi pawb yn anghywir.

Rwy’n dal i weld Pencampwriaethau’r Byd drwy ryw niwl. Doeddwn i ddim wedi bwriadu mynd iddynt a dweud y gwir, a minnau wedi ennill lle i fynd i’r Gemau Olympaidd; penderfyniad munud olaf oedd. Roedd llawer o bobl ar bigau’r drain cyn dechrau’r ras ac ni allaf ddweud imi fwynhau’r oerfel, ond, a minnau wedi cael fy magu yn y DU ac yn hyfforddi yng Nghymru, yn y glaw a’r oerfel, rydych yn cyfarwyddo â’r amodau, ac yn gallu eu goddef ... ond roedd y dŵr yn oer iawn. Llwyddodd dwy ohonom i adael y lleill ar ôl ar y beic, daliom ati i weithio’n galed, daethom oddi ar y beic a rhedeg ochr yn ochr am ryw 9.8 cilometr o’r deg. Dim ond yn y dau can metr olaf y llwyddais i agor bwlch rhyngof fi a Sarah Haskins o’r UD ac, oedd, roedd yn anhygoel. Gwyddem fod rhai rhedwyr cyflym iawn y tu ôl inni ac ar ôl rhyw wyth cilometr gwaeddodd rhywun, “Dau gilometr i fynd ac rydych funud tri deg ar y blaen”, a meddyliais, “O, Nefoedd, rwy’n gyntaf neu’n ail ym Mhencampwriaethau’r Byd”. Ac roeddwn yn meddwl, “Wel, mae ail yn grêt. Mae hynny’n wych”. Cyrhaeddom tua 600 metr i fynd a gwthiodd Sarah ymlaen ychydig, a disgynnais innau fymryn yn ôl. Wedyn meddyliais, “Bydd Mark yn gwylio hyn gartref, ac fe’m lladdith i os caf fy ngollwng nawr”. Cyrhaeddais y darn syth olaf a rhoddais fy mhen i lawr a mynd amdani. Yn y sesiynau rhedeg rydym yn eu gwneud gyda’n hyfforddwr rhedeg lleol, Steve Brace, Olympiad a rhedwr marathon, rydym yn gwneud sbrint 200 metr ar ddiwedd pob sesiwn. Fel arfer rydych wedi blino a bydd yntau’n dweud, “sbrint 200 metr”, a ninnau mynd, “Rhedwyr dros bellter ydyn ni. Pam ydyn ni’n gwneud 200?”, a bydd yntau’n dweud, “Dydych chi byth yn gwybod pryd y bydd angen y 200 olaf yna arnoch!”. Roeddwn yn meddwl am Steve wrth ddod lawr y darn olaf yna, y 200 olaf. Dydw i ddim yn wibiwr da iawn ac ni fyddwn wedi curo llawer o ferched eraill, ond roedd yn ddigon i drechu Sarah y diwrnod hwnnw … teimlad gwych.

iselfannau
Yr adeg waethaf, mae’n debyg, oedd fy anaf cyntaf yn 2006. Roedd yn sioc aruthrol i mi. Doeddwn i erioed wedi cael anaf ac rydych yn meddwl eich bod yn anorchfygol. Cefais broblem Achilles. Cymerodd amser hir ond des drosti, ac roeddwn yn ôl yn hyfforddi ond, wedyn, gwnes gwpl o rasys ar ddechrau 2007 ac roedd fy nhroed yn brifo. A finnau’n meddwl, “Dydw i ddim wedi f’anafu, dydw i ddim wedi f’anafu.” Roedd fel pe bai fy meddwl yn gwrthod cydnabod beth oedd yn digwydd: “Dydy hyn ddim yn digwydd eto.” Roedd gen i broblem arall gyda’r Achilles. Ar y pryd, mwy na thebyg mai dyna’r peth gorau a allai fod wedi digwydd imi oherwydd, wedi cael dau anaf un ar ôl y llall, gorfododd fi i agor fy llygaid a derbyn fod rhaid imi wneud yr holl waith ailsefydlu yn berffaith. Does dim diben rhyw esgus gwneud y gwaith hwnnw. Canolbwyntiais o ddifrif ar fy nofio a’m beicio oherwydd ni allwn wneud unrhyw beth arall. Roeddwn yn dechrau dod i siâp yn dda iawn erbyn diwedd 2007, yna dywedodd Ffederasiwn Triathlon Prydain na fyddent yn fy noddi mwyach, gan fy mod wedi cael anaf ac nad oeddwn wedi cystadlu. Roedd cael cnoc felly yn dipyn o sioc ar y pryd, a minnau’n dod yn ôl mor dda. Roeddwn yn meddwl, “Dydw i ddim yn gwybod sut y gallaf gynnal fy hun. Sut ydw i’n mynd i deithio i rasys?”, ac roedd ychydig cyn 2008, yr adeg yr oedd y tîm ar gyfer y Gemau Olympaidd i gael ei ddethol. Roedd yn anodd iawn ei gymryd. O edrych yn ôl, rhoddodd gymaint mwy o ffocws imi, nid yn unig i’w profi nhw’n anghywir ond i brofi i mi fy hun y gallwn ei wneud. Roeddwn yn credu y gallwn fynd i’r Gemau Olympaidd. Roeddwn mor ddiolchgar am y gefnogaeth a gefais gan Athrofa Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd bryd hynny. Roeddwn yn defnyddio’r ffisiotherapyddion yno, yr hyfforddwyr cryfhau a chyflyru, seicolegwyr chwaraeon, gwyddonwyr chwaraeon. Roedden nhw’n credu y byddwn yn ennill lle i fynd i’r Gemau Olympaidd er nad oedd staff Triathlon Prydain yn credu hynny mwy na thebyg, felly roedd yn braf cael y math hwnnw o gefn. Dyna pryd y dechreuodd Mark fy hyfforddi. Doedd dim dewis arall gennym, a dweud y gwir. Roedd fy mherthynas gyda’m hyfforddwr blaenorol wedi chwalu; roedd Mark wedi ymwneud llawer â’r gamp – hynny yw, byddai’n dweud ei hun nad yw’n hyfforddwr, nad yw wedi gwneud gradd yn hynny, ac nad yw’r cymwysterau hyfforddi ganddo – ond rwy’n credu eich bod yn dysgu cymaint o wneud y gamp a chymysgu ag athletwyr elit da a hyfforddi gyda nhw.

2012
Ar y funud mae pawb yn gofyn, “2012? Aur yn 2012? Ai dyna dy brif nod?”, ac mae wastad yng nghefn eich meddwl. Rwy am weld pa mor gyflym y gallaf fynd. Y triathletwr gorau yn y byd – sydd wedi’i hanafu eleni, fel mae’n digwydd – yw’r bencampwraig Olympaidd, Emma Snowsill, a’i hamser rhedeg hi yn Beijing oedd 33 munud a 18 eiliad, sy’n gyflym. Dydw i ddim yn agos at hynny ar y funud. Rwy funud a hanner da, munud a thri chwarter, yn arafach na hynny, felly rwy am weld a allaf wneud hynny. Rhaid imi hyfforddi, rhaid imi wneud yr hyfforddiant cyson, i weld pa mor bell y gallaf fynd.

Mae mor anodd dweud mewn triathlon; dydych chi byth yn gwybod beth sydd rownd y gornel. Eleni, er enghraifft, mae rhai athletwyr wedi dod i’r amlwg sydd wedi gwneud yn wirioneddol dda. Rhaid imi wneud yr hyfforddi. Dydw i ddim wedi f’anafu ar y funud, sy’n wych, a dydw i ddim wedi cael unrhyw anafiadau o bwys ers yr un mawr yn 2007, a rhaid imi gadw hynny i gyd o dan reolaeth. Wedyn, gobeithio, gallaf roi perfformiad teilwng o’r fedal aur yn 2012.

cenedl lai
Rwy wrth fy modd yn rasio dros Brydain Fawr; mae’n grêt teimlo’n rhan o dîm pan fyddwn yn mynd i’r rasys hynny. Mae wastad lawer yn haws cymhwyso dros Gymru. Mae ennill eich lle mewn tîm Olympaidd yn fwy o gamp, ond mae cymaint mwy o angerdd yn nhîm Cymru nag yn nhîm Prydain. Rwy’n meddwl, os ydych yn dod o genedl lai, eich bod bron iawn yn ymladd yn erbyn pawb arall. Un o’m profiadau gorau oedd Gemau’r Gymanwlad yn 2006 – fel y digwyddodd, fe gwympais i yn y ras a doedd hynny ddim yn llawer o hwyl – ond fe es i’r Seremoni Agoriadol ac roeddem i gyd wedi’n gwisgo yr un fath, yn cerdded allan i’r dyrfa. Roedd gan bawb ohonom faneri Cymru ac roedd pawb yn canu. Roedd yn wefreiddiol. Gyda thîm Olympaidd Prydain, mae’n llawer rhy fawr i gael yr ymdeimlad yna o agosatrwydd.

Es i’r Seremoni Gloi yn Beijing. Roedd yn dda ond un o’r pethau gorau am yr holl brofiad o fynd i Gemau Olympaidd 2008 oedd y croeso a gawsom pan gyrhaeddom yn ôl i Gaerdydd. Aethom allan ar fws agored a mynd cyn belled ag adeilad y Cynulliad Cenedlaethol. Doedden ni ddim yn disgwyl y byddai neb yno; roeddem yn meddwl, “Byddwn yn edrych yn rêl ffyliaid.”. Pan gyrhaeddom yno, roedd yna dyrfa enfawr, a dyna un o’r pethau gorau am yr holl brofiad.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw