Nyrs Margaret Bevan gyda'r Iarll Haig
Disgrifiadau
Ganwyd Margaret Walker Bevan yn Abertawe ar 22 Hydref 1883 ac fe'i hyfforddwyd i fod yn nyrs yn Coventry ac yna aeth i weithio mewn ysbyty yn Barnsley. Ym 1915 fe ymunodd â'r Welsh Military Hospital, Netley (ger Southampton), gan wirfoddoli i wasanaethu dramor. Gwasanaethodd yn India a Mesopotamia cyn dychwelyd i Brydain o gwmpas Nadolig 1919. Ar ôl gweithio am ychydig mewn ysbyty neilltuol [Isolation Hospital] yn Hornsey, fe dderbyniodd Margaret swydd Matron yn Farnborough, mewn ysbyty a sefydlwyd i anrhydeddu'r trigolion lleol a syrthiodd yn y Rhyfel Mawr. Agorwyd yr ysbyty gan yr Iarll a'r Arglwyddes Haig ar 12 Gorffennaf 1921. Yn y ffotograff hwn o'r seremoni agoriadol gwelir Margaret yng nghanol y llun, yn sefyll y tu ôl i'r Iarll a'r Arglwyddes Haig.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment