Trin cleifion mewn pebyll, Mesopotamia, c.1917
Disgrifiadau
Ganwyd Margaret Walker Bevan yn Abertawe ar 22 Hydref 1883 ac fe'i hyfforddwyd i fod yn nyrs yn Coventry ac yna aeth i weithio mewn ysbyty yn Barnsley. Ym 1915 fe ymunodd â'r Welsh Military Hospital, Netley (ger Southampton), gan wirfoddoli i wasanaethu dramor. Yn fuan wedyn, fe drosglwyddwyd staff ac offer yr ysbyty i Deolali, India, ac yna, ym mis Gorffennaf 1917, danfonwyd y nyrsys i Mesopotamia. Buont yn gwasanaethu mewn ysbytai yn Basra ac Amara ac ar hyd arfordir Gwlff Persia. Gwasanaethodd Margaret yn Ysbytai Milwrol Cyffredinol 1 ac 32, ac yna fe aeth hi i Bacuba lle gofalodd am ffoaduriaid (merched a phlant) o Armenia a Gwlad Groeg. Mae'n debyg i'r llun hwn o Margaret yn gofalu am gleifion mewn pebyll gael ei dynnu yn Basra.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment