Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ganwyd Margaret Walker Bevan yn Abertawe ar 22 Hydref 1883, yr hynaf o ddwy ferch John a Harriet Bevan. Ym mis Mai 1902 fe ddechreuodd ar hyfforddiant i fod yn nyrs yn ysbyty dinas Coventry. Wedi cwblhau ei hyfforddiant sylfaenol, fe aeth i weithio yn Ysbyty Becket, Barnsley, gan godi i safle Matron erbyn 1915. Yna fe ymddiswyddodd er mwyn ymuno â'r Welsh Military Hospital, Netley (ger Southampton) ym mis Gorffennaf 1915, gan wirfoddoli i wasanaethu dramor. Roedd yr ysbyty hwn, a oedd â 399 o welyau ynddo, yn cael ei ariannu gan gyfraniadau gwirfoddol o Gymru. O fewn ychydig wythnosau wedi i'r British Expeditionary Force groesi'r sianel ym 1914 roedd yr ysbyty yn trin milwyr a anafwyd yn y Rhyfel Mawr. Ym mis Mai 1915 derbyniwyd gorchymyn i drosglwyddo staff ac offer yr ysbyty draw i India, fel uned i drin 3,000 o gleifion. Roedd yn rhaid i'r nyrsys ymuno â'r Queen Alexandra's Imperial Military Nursing Service (QAIMNS) a byddai'r ysbyty yn cael ei ail-leoli yn Deolali India o dan yr enw '34th Welch General Hospital'. Ar y ffordd i India fe dreuliodd y staff ryw dair wythnos yn Alexandria lle buont yn cynorthwyo mewn ysbytai milwrol. Wedi glanio yn Bombay, tua 20 Mehefin, fe aethant mewn grwpiau bach i fyny i Deolali fel y deuai'r wardiau'n barod. Roedd gan Margaret ofal dros ward â 70 o welyau ynddi, yn gofalu am filwyr a oedd wedi gwasanaethu yn Basra. Yn ddiweddarach, danfonwyd carcharorion rhyfel o Dwrci i'r adran hon. Tynnwyd y llun hwn ym mis Mai 1917 ac mae'n dangos Ward 11 yn yr ysbyty yn Deolali, gyda Margaret yn sefyll ar yr ochr chwith.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw