Llong-Ysbyty Valdivia ym 1915
Disgrifiadau
Ganwyd Margaret Walker Bevan yn Abertawe ar 22 Hydref 1883, yr hynaf o ddwy ferch John a Harriet Bevan. Ym mis Mai 1902 fe ddechreuodd ar hyfforddiant i fod yn nyrs yn ysbyty dinas Coventry. Wedi cwblhau ei hyfforddiant sylfaenol, fe aeth i weithio yn Ysbyty Becket, Barnsley, gan godi i safle Matron erbyn 1915. Yna fe ymddiswyddodd er mwyn ymuno â'r Welsh Military Hospital, Netley (ger Southampton) ym mis Gorffennaf 1915, gan wirfoddoli i wasanaethu dramor. Roedd yr ysbyty hwn, a oedd â 399 o welyau ynddo, yn cael ei ariannu gan gyfraniadau gwirfoddol o Gymru. Roedd yr ysbyty yn trin milwyr a anafwyd yn y Rhyfel Mawr o fewn ychydig wythnosau i'r British Expeditionary Force groesi'r sianel ym 1914. Ym mis Mai 1915 derbyniwyd gorchymyn i drosglwyddo staff ac offer yr ysbyty draw i India, fel uned i drin 3,000 o gleifion. Roedd yn rhaid i'r nyrsys ymuno â'r Queen Alexandra's Imperial Military Nursing Service (QAIMNS) a byddai'r ysbyty yn cael ei ail-leoli yn Deolali India o dan yr enw '34th Welch General Hospital'. Hwyliodd y staff i Bombay (gan aros yn Alexandria) ar yr Llong-Ysbyty Valdivia.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment