Skip to main content

Celf y Peirianwyr, yn coffáu'r milwyr o Beirianwyr Brenhinol Sir Fynwy a laddwyd yn Ypres a St. Eloi, 1914-18

Disgrifiadau

Mae milwyr ymhob oes wedi defnyddio'u hamser hamdden i wneud gwaith celf a chrefft i'w anfon adref, i'w werthu am fwyd neu sigarennau, neu i goffá cyd-filwyr colledig. Gwnaed y darn hwn gan beiriannydd yng Nghatrawd Frenhinol Sir Fynwy i goffá cyd-filwyr a fu farw yn Ypres a St. Eloi yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Tref yng Ngwlad Belg yw Ypres, ar y ffin gyda Ffrainc ac wedi ei lleoli mewn ardal strategol bwysig. Roedd ymladd erchyll yno drwy gydol y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae St. Eloi ychydig i'r de. Gellir gweld maint y colledion yn yr ardal drwy edrych ar nifer y mynwentydd: cyfanswm o 171, a 47,000 o feddau. Mae mwy na 100,000 o ddynion wedi'u coffá ar gofgolofnau yng Ngwlad Belg; ni chladdwyd dros 50,000 ohonynt.

Owner:
Castle and Regimental Museum, Monmouth
Crëwr:
Unknown
Gwybodaeth drwydded
Reproduced by permission of Castell ac Amgueddfa Gatrodo
Copyright Details:
Amgueddfa Castell a Chatrawd Trefynwy 2002
Publisher Ref:
GTJ70937
Eitem wedi’i llwytho:
13/7/2011
Date originally created:
1914-1918
Gwelediadau:
1352
Ffefrynnau:
0

Cysylltwch â Ni

I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.

Man writing a letter

You must be logged in to leave a comment