Baneri catrodol Cyffinwyr De Cymru yng Nghadeirlan Aberhonddu
Baneri catrodol Cyffinwyr De Cymru yng Nghadeirlan Aberhonddu
Disgrifiadau
Sefydlodd Catrawd Rhif 24, Cyffinwyr De Cymru, eu pencadlys catrodol yn Aberhonddu ym 1873 a chysegrwyd Capel Havard yng Nghadeirlan Aberhonddu fel y Capel Catrodol ym 1922. Ym 1934, cyflwynwyd y Baneri enwog a gariwyd gan y Gatrawd yn ystod Rhyfel Zwlw 1879 i'r Capel. Achubwyd Baner y Frenhines Rhif 1/24 gan yr Is-gapteiniaid Melvill a Coghill wedi'r trychineb yn Isandhlwana. Anrhydeddwyd y ddau, a laddwyd gan y Zwlŵaid, gyda'r Groes Victoria wedi'u marwolaethau. Rhoddwyd y baneri arbennig hyn mewn casys yn 2002, oherwydd eu pwysigrwydd ac er mwyn eu gwarchod rhag dirywio ymhellach.
More items with these tags
Cysylltwch â Ni
I wneud cais i dynnu i lawr neu riportio cynnwys hiliol, sarhaus neu niweidiol mewn unrhyw ffordd arall.
You must be logged in to leave a comment