Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Lede
Cafodd y berthynas rhwng yr awyr a’r môr ei drawsnewid pan ddyfeisiwyd y balŵn aer poeth yn y 1780au. Ond nid ar chwarae bach y byddai Môr Iwerddon yn cael ei groesi mewn balŵn.

Stori
Roedd dyfeisio teithio mewn balŵn aer poeth yn y 1780au yn rhyfeddod rhyngwladol, ac atebodd awyrenwyr unigol dewr yr her o geisio cwblhau teithiau mwyfwy mentrus. Er hynny, daeth ymdrechion i groesi Môr Iwerddon am y tro cyntaf i ben mewn sawl methiant dramatig. Bu’r awyrennwr Gwyddelig arloesol Richard Crosbie yn gyfrifol am ddigwyddiad dramatig ym Mae Dulyn ym Mai 1785, pan welodd Crosbie fod arno angen peilot ysgafnach i’w falŵn. Yr eilydd y tro hwnnw oedd myfyriwr 21 oed yng Ngholeg y Drindod, Richard McGwire (neu MacGwire), a aeth yn sownd yn y môr sawl milltir oddi ar Howth oherwydd ei ddiffyg profiad mewn balŵn. Yn ffodus i McGwire, cyrhaeddodd cychod yn gyflym a’i ddychwelyd i Ddulyn, lle cafodd ei dderbyn fel arwr, gan gynnwys teyrngedau barddonol, comisiwn gan y fyddin a’i urddo’n farchog. Methodd Crosbie ei hun â chroesi Môr Iwerddon y flwyddyn wedyn, pan gafodd ei achub ar ôl glanio yn y môr tua hanner ffordd trwy ei daith.

Ym mis Hydref 1812 y cafwyd yr ymgais aflwyddiannus enwocaf, pan wnaeth ymgais James Sadler i groesi o Ddulyn i Lerpwl ei adael yn sownd oddi ar arfordir y Gogledd ar fachlud haul. Cychwynnodd Sadler o Ddulyn yng nghanol ffanffer, ond daeth ar draws problem a allasai fod yn drychinebus heb fod yn hir i mewn i’r hediad pan welodd fod rhwyg yn ei falŵn sidan coch a gwyn. Mewn ymgais llawn perygl ac arwriaeth, bu’n agored i fygdarthau, nwyon a gwres eithafol, ac mae Sadler yn sôn am ddefnyddio’i hances i drwsio’r twll. Mae disgrifiad Sadler hefyd yn cynnwys disgrifiadau trawiadol o’r olygfa o’i falŵn, dros faestrefi Dulyn, y Bae a’r llongau i’r golygfeydd ar draws Wicklow a thros y môr: ‘in a word, the country to the South and West of Dublin, interspersed with Villages and cultivated Fields, the Amphitheatre of Hills and Mountains, the broad expanse of Ocean, the Bay, the small Breakers beating on the Islands and the rocky shore, the sails of Vessels glancing in the Sun; all combined presented a prospect which fancy may contemplate, but words can give no adequate idea of’. Ychydig yn unig oedd wedi gweld y golygfeydd hyn cyn Sadler, sef rhywbeth a oedd yn gwneud iawn am y risgiau, meddai.

Llwybr arfaethedig Sadler ar draws Môr Iwerddon oedd Dulyn i Lerpwl, ond fe allai fod wedi llwyddo yn ei ymgais ym 1812 pe bai wedi glanio yng Nghymru. Wrth fynd tua’r gogledd-ddwyrain ar ei hediad, hedfanodd Sadler dros Ynys Manaw, cyn troi tua’r de eto tuag at Ynys Môn. Mae’n nodi ei fod wedi mynd heibio i’r gogledd-orllewin o Gaergybi, yna Goleudy’r Moelrhoniaid, ond roedd trafferth o’i flaen. Roedd newid cyfeiriad y gwynt wrth i Sadler agosáu at Landudno ar arfordir y Gogledd yn golygu bod cyrraedd Lerpwl yn fwyfwy annhebygol. Wrth i’r nos agosáu, gorfodwyd Sadler i lanio yn y môr, lle bu’n aros i gael ei achub gan longau cyfagos. Bu’n rhaid i’w falŵn, oedd yn dal i lenwi’n rhannol â nwy, gael ei dyllu gan bolyn blaen un o’r llongau a ddaeth i’w helpu, er mwyn gollwng yr aer.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw