Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Lede
Cafodd y berthynas rhwng yr awyr a’r môr ei drawsnewid pan ddyfeisiwyd y balŵn aer poeth yn y 1780au. Ond nid ar chwarae bach y byddai Môr Iwerddon yn cael ei groesi mewn balŵn.
Stori
Mater teuluol oedd y ras i fod yn gyntaf i groesi Môr Iwerddon mewn balŵn aer poeth yn y diwedd. Ar ôl i ymgais enwog James Sadler fethu ym mis Hydref 1812, cafodd yr awenau eu codi gan ei fab 20 oed, Windham Sadler, ym 1817. Fel ei dad, cyhoeddodd Sadler adroddiad ar ei hediad arloesol. O’r dechrau, mae ei naratif yn fframio’r ymgais fel stori am ddwy genhedlaeth – yntau’n llwyddo lle roedd ei dad wedi cyfaddef cael ei drechu, ‘to preserve to the Family … the undisputed palm of pre-eminence in the practical application of Æerostation’. Ar ôl cychwyn o Farics y Marchfilwyr, Portobello, ar 22 Mehefin 1817, mae’n ymddangos bod hediad Sadler, a barhaodd chwe awr, wedi bod yr un mor hwylus ag y bu hediad ei dad yn ddramatig, oedd yn golygu y gallai fwynhau’r golygfeydd panoramig rhyfeddol o’r awyr: ‘seated at ease and security in the middle regions of a calm and serene Atmosphere … enjoying at one glance the opposite Shores of Ireland and Wales, with the entire circumference of the Isle of Man’.
Rhyw dair awr wedyn, glaniodd Sadler yn ddiogel yng Nghaergybi lle’r oedd y parti croesawu yn cynnwys capten môr adnabyddus, John Macgregor Skinner: ‘Within a quarter of Seven o’clock, I was a little to the Southward of the Light-house on Holyhead, when perceiving a suitable place on which to alight, I in a few minutes, opened the Valve, when the Balloon descending, a current of Air brought me at once within a short distance of the spot which I had selected, and the grappling Iron touching the Earth, the Balloon remained stationary, at within Twelve feet of the ground: the Evening was serenely calm, and a number of persons having assembled to aid me at the moment of descent, it was effected in a manner the most successful … at five minutes after Seven o’clock I trod on the shores of Wales, the first Æronaut who had successfully accomplished the passage of the Irish Channel’.
Defnyddiodd Sadler ei naratif hefyd fel cyfle i fyfyrio ar le awyrofod a gwyddoniaeth atmosfferig mewn gwybodaeth wyddonol gyfoes. Er bod meysydd cemeg, mwynoleg a thrydan yn cael eu deall yn gynyddol dda erbyn 1817, roedd gwyddoniaeth awyr ar ei hôl hi, dadleuai Sadler. Mae ei naratif yn pwysleisio mai’r awyr yn unig oedd yn dal heb ei archwilio, gan fynd ymlaen i nodi sut y gellid datblygu a defnyddio agweddau ar wyddoniaeth atmosfferig a gâi eu diffinio erbyn 1817 gan siwrneiau mewn balŵn – yn enwedig ar draws Môr Iwerddon.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw