Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Mae'r blwch hwn wedi'i ysgythru ag arfbais Clan Gregor, teulu o Ucheldir yr Alban sy'n tarddu o'r 9fed ganrif. Mae hefyd yn cynnwys teyrnged i’r Capten John Macgregor Skinner, a foddodd mewn storm ym 1832. Credir bod y bocs ar un adeg yn perthyn i hen daid Capten Skinner.
 
Roedd y Parchedig William Skinner, taid Capten Skinner, wedi penderfynu newid enw’r teulu ar ôl gwrthryfel aflwyddiannus y Jacobitiaid yn 1715. Ffodd y Parchedig Skinner o’r Alban ar gyfer Perth Amboy, New Jersey, lle daeth yn rheithor Eglwys San Pedr. Ar y pryd, roedd New Jersey yn wladfa dan reolaeth Lloegr.
 
Roedd y blychau hyn yn cario snisin [snwff], math o dybaco maluriedig. Yr enw ar focsys snisin rhy fawr yw ‘mulls’. Fe'u gwneir mewn amrywiaeth o siapiau, meintiau a deunyddiau.
 

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw