Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Ar 22 Chwefror 1908, daliwyd y llong-ager 'Harold' mewn moroedd garw oddi ar arfordir Ynys Môn. Wrth i’w injans fethu a’r amodau waethygu, galwyd ar fad achub Caergybi am gymorth. Hwyliodd 'Duke of Northumberland' am ddwy awr yn y dyfroedd erchyll hyn, dan arweiniad y Llywiwr Cwch William Owen.

Symudodd y llywiwr medrus y bad achub yn ddigon agos i sefydlu llinell rhwng y ddau long. Dihangodd chwe dyn ‘Harold’ ar draws y llinell, tra llwyddodd tri arall i neidio i ddiogelwch. Am ei ddawn a'i ddewrder, dyfarnwyd Medal Aur yr RNLI i William Owen, ei anrhydedd uchaf.

Rhoddwyd y fedal a’r dystysgrif i’r amgueddfa gan or-or-ŵyr William Owen, ar ganmlwyddiant yr achubiaeth yn 2008.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw