Badau Achub Caergybi a Mon

Ar 26 Mawrth 1823 drylliwyd pecyn llongau, 'Alert’, oddi ar arfordir gogledd-orllewin Ynys Môn. Er gwaethaf amodau tawel collwyd 140 o fywydau ar y môr. Roedd y Parchedig James Williams a'i wraig Frances ymhlith gwylwyr ddiymadferth o'r lan. Yn awyddus i osgoi trychineb debyg, fe dreulion nhw y pum mlynedd nesaf yn codi arian ac yn ysgogi barn y cyhoedd. Tua diwedd y flwyddyn 1828, buont yn helpu i ffurfio Cymdeithas Môn er Gwarchod Bywyd o Longddrylliad, cymdeithas ymroddedig i achub bywydau ar y môr.

Gwasanaethodd y Parchedig James fel lywiwr cwch ar fadau achub cynharaf Cemlyn a Chaergybi. Ymunodd Frances â’i gŵr ar y môr yn aml ac, fel artist dawnus, roedd hefyd yn dal campau’r bad achub mewn brasluniau a phaentiadau dramatig. Gweithiodd y cwpl yn ddiflino dros y tri degawd nesaf. Erbyn i'r RNLI gymryd cyfrifoldeb am achub môr lleol ym 1855, roedd badau achub Ynys Môn wedi achub dros 400 o fywydau ar hyd arfordir yr ynys.

Mae etifeddiaeth selogion ymroddedig fel y Parchedig James a Frances Williams yn parhau i'r 21ain ganrif. Mae gwirfoddolwyr yn achub bywydau ar y môr trwy chwilio ac achub ac mae bad achub pob-tywydd, 'Christopher Pearce’, yn parhau i gael ei lansio o harbwr mewnol Porthladd Caergybi.

Delwedd clawr: Frances Williams c.1836 'Sarah' (Oriel Mon)

Mae 4 eitem yn y casgliad

  • 462
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 271
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi
  • 411
  • Use stars to collect & save items mewngofnodi