Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.
Disgrifiad
Yn fuan wedi dyfodiad yr RNLI i Ynys Môn yn 1855, cytunodd y Morlys i dalu £410 i adeiladu gorsaf bad achub barhaol ar Draeth y Newry, Caergybi. Addaswyd ac ehangwyd yr adeilad dros y pedwar degawd nesaf i ddarparu ar gyfer cenedlaethau dilynol o fadau achub.
Fodd bynnag, ym 1897, prynodd Caergybi y ‘Duke of Northumberland’, bad achub cyntaf yr ynys i’w bweru gan stêm. Gan ei fod yn rhy fawr i'r adeilad presennol, roedd wedi'i angori wrth ymyl dociau'r harbwr. Yn ddiweddarach adeiladwyd gorsaf bad achub arall ar Ynys yr Halen i gartrefu cychod modur mwy modern. Parhaodd yr adeilad ar Draeth Newry i wasanaethu fel gorsaf ategol nes iddo gael ei gau yn 1930.
Heddiw, mae'r orsaf bad achub yn gartref i Amgueddfa Forwrol Caergybi sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr. Mae ei chasgliad yn dathlu hanes morol a llyngesol cyfoethog y dref.
Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod
Sylwadau (0)
Rhaid mewngofnodi i bostio sylw