Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Sefydlodd Syr William Hillary yr RNLI yn 1824 a bu’n gohebu’n gyson â’r Parchedig James Williams i gefnogi Cymdeithas Môn er Gwarchod Bywyd o Longddrylliad. Darparodd George Palmer, dirprwy gadeirydd yr RNLI am dros 25 mlynedd, y cynlluniau ar gyfer badau achub cynharaf Caergybi.

Yr oedd yr arwyddlun o 'St. Cybi (Gwasanaeth Sifil Rhif 9)', bad achub a wasanaethodd Gaergybi yn ganol yr 20fed ganrif. Fe'i cyflwynwyd ym mis Rhagfyr 1966, ar ôl i 'St. Cybi' ymuno gyda bad achub Moelfre i achub criw'r llong gargo, 'Nafsiporos’. Dros gyfnod o 24 awr, brwydrodd y badau achub tonnau aruthrol a gwyntoedd 100mya.

Cafodd 15 o forwyr Groegaidd eu hachub o’r llong a cafodd pob aelod o’r criw achub eu gwobrwyo gyda medalau’r RNLI.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw