Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Read more about the The Creative Archive Licence.

Disgrifiad

Adeiladwyd y maenordy gwreiddiol ar y safle hwn yn nechrau'r bymthegfed ganrif. Rhoddwyd trwydded frenhinol i Syr Gwilym Gruffydd yn 1438 yn rhoi caniatad iddo roi crenelau ar y t? ac ymestyn yr adeilad drwy ychwanegu twr caerog ato. Roedd hwn yn adeilad sylweddol a ddisgrifiwyd mewn cerdd o'r bymthegfed ganrif gan Rhys Goch Eryri. Fe'i cofnodwyd hefyd mewn darluniau a wnaed gan y pensaer Samuel Wyatt cyn iddo gael ei addasu'n sylweddol iawn gyda'i gynlluniau ef ar gyfer plasty Gothig i deulu'r Penrhyn yn 1782. Mae'n ymddangos fod y cynllun hwn wedi cadw cromgell yr islawr, y twr gyda'i risiau troellog a'r neuadd fawr o'r cynllun canoloesol, yn ogystal ag adlewyrchu arddull ganoloesol yr adeilad gwreiddiol.

Cafodd yr adeilad presennol ei greu gan y pensaer Thomas Hopper rhwng 1822 a 1837 i George Hay-Dawkins Pennant, a oedd wedi etifeddu ystad y Penrhyn ar ol ei gefnder, Richard Pennant. Roedd Pennant ei hun wedi priodi i deulu'r Penrhyn ac wedi gwneud ei ffortiwn wedi hynny drwy'r diwydiant llechi yng Ngogledd Cymru a phlanhigfeydd siwgr yn Jamaica. Gwnaeth gaethiwo bron 1,000 o bobl ar draws ei bedair planhigfa. (I gael rhagor o wybodaeth am sut y cafodd cyfoeth a enillwyd o’r fasnach gaethweision dros yr Iwerydd ei ddefnyddio i adeiladu Castell Penrhyn, ewch i wefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol: https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/penrhyn-castle-and-garden/castell-penrhyn-a-hanes-fasnach-gaethwasiaeth.)*

Yn wahanol i benseiri eraill cestyll ffug y cyfnod Rhamantaidd a Fictoraidd cynnar, penderfynodd Hopper beidio a defnyddio'r arddull Gothig ffasiynol ond, yn hytrach, fynd am arddull neo-Normanaidd. Aeth ei weledigaeth o arddull Normanaidd tu hwnt i bensaerniaeth bur, gan ymestyn i'r gwaith plaster caboledig ac addurniedig a ddefnyddiwyd yn y llyfrgell, y neuadd fawr a'r grisiau. Roedd y dodrefn hefyd yn adlewyrchu'r arddull hon. Gwaetha'r modd, dim ond am dair blynedd arall y bu George Hay-Dawkins Pennant fyw ar ol i'r gwaith adeiladu o bymtheg mlynedd yn y castell ddod i ben.

Yn 1859, arhosodd y Frenhines Fictoria a'r Tywysog Albert yn y castell yn ystod un o'u hymweliadau prin a Chymru. Fodd bynnag, gwrthododd y frenhines gysgu yn y gwely llechen mawr yr oedd teulu'r Penrhyn wedi ei gomisiynu'n arbennig ar gyfer yr achlysur, gan ei fod yn ei hatgoffa o fedd. Tua'r amser yma hefyd y dechreuodd yr ystad agor ei gatiau yn rheolaidd i grwpiau o dwristiaid, a dalai am gael eu harwain drwy'r ystafelloedd ysblennydd a'r gerddi helaeth gan yr howsgiper.

Aelod olaf teulu'r Penrhyn i fyw yn y castell oedd Hugh Napier Douglas-Pennant, a fu farw yn 1949. Aeth y castell a'r gerddi'n eiddo i'r Trysorlys yn 1951 a heddiw maent dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yn ogystal a'r gosodiadau mewnol a dodrefn sydd wedi eu diogelu yno, mae'n gartref hefyd i un o gasgliadau celf gorau Cymru.


* Cafodd y disgrifiad hwn ei ddiweddaru ym mis Medi 2023. Cafodd y gair ‘caethwasiaeth’ ei ddisodli gan frawddeg sy’n nodi sut a ble y gwnaeth Pennant gaethiwo pobl er mwyn crynhoi cyfoeth (ffynhonnell gyfeirio: Inclusive Terminology Glossary, 1.1. African American History and the Atlantic Slave Trade: https://docs.google.com/document/d/1JaJ8VchUCbtg7jPmhwiZOQYsabBqKLxZ7n69urQS8VM) a chafodd dolen gyswllt â gwefan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei hychwanegu er mwyn cael rhagor o wybodaeth am hanes trefedigaethol y Castell.

Oes gennych chi wybodaeth ychwanegol am yr eitem hon? Gadewch sylwad isod

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw