arrowbookcheckclosecommentfacebookfavourite-origfavouritegooglehomeibapdfsearchsharespotlighttwitterwelsh-government
  • Rhestr o gaethweision a stoc ar ystâd teulu'r Pennant, Jamaica, 31 Rhagfyr 1812 [delwedd 1 o 2]

  • Gweld map
Map Argraffiad 1af (1868-1892) Ail Argraffiad (1899-1908) Trydydd Argraffiad (1920-1932) Pedwerydd Argraffiad (1938-1954) Tithe Map
  • Use stars to collect & save items A vector image of star to represent action to save this item  mewngofnodi i gadw'r eitem hon
  • Lawrlwytho (defnydd anfasnachol yn unig)

Gellir lawrlwytho cynnwys at ddefnydd anfasnachol, megis defnydd personol neu ar gyfer adnoddau addysgol.
Ar gyfer defnydd masnachol cysyllwch yn uniongyrchol gyda deilydd yr hawlfraint os gwelwch yn dda.
Darllenwch fwy am y Drwydded Archif Greadigol.

Delwedd 1:Download link to the full resolution of image number 1
full resolution of image 1

Disgrifiad

Rhestr o'r caethweision a'r anifeiliaid ar ystadau Penrhyn yn Jamaica, dyddiedig 31 Rhagfyr 1812. Bu cysylltiad rhwng teulu'r Pennant, a hannai o Sir y Fflint yn wreiddiol, â'r diwydiant cynhyrchu siwgr a'r fasnach gaethwasiaeth broffidiol yn India'r Gorllewin ers canol yr ail ganrif ar bymtheg. Ehangwyd yr ystadau dan arweiniad Edward Pennant (1672-1736) a ddaeth yn Brif Ustus Jamaica. Dychwelodd ei feibion, Samuel (1709-50), John (m. 1781) a Henry Pennant (1713-82) i Brydain lle cafodd John yrfa lwyddiannus fel masachwr yn Lerpwl, prif borthladd y fasnach siwgr ym Mhrydain.

Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuodd y brodyr Pennant brynu a sicrhau eiddo ym Mhrydain gan uno ystâd rhanedig y teulu. Ym 1765 priododd mab John, sef Richard Pennant (1739-1808) ag Anne Susannah Warburton, etifeddes un rhan o ystadau'r Penrhyn. Yn dilyn marwolaeth ei dad, aeth Richard Pennant ati i ddefnyddio'r elw a ddeuai o'r planhigfeydd siwgr i ddatblygu ystadau'r Penrhyn yn Sir Gaernarfon. Trôdd Richard ei olygon at y chwareli llechi a oedd yn yr ardal ac aeth ati i wella'r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng y chwareli a'r porthladd newydd a sefydlodd ym Mhorth Penrhyn. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd, lleisiodd ei farn yn huawdl o blaid y fasnach gaethwasiaeth a fu mor broffidiol i'w deulu. Bu farw ym 1800, gan adael ei eiddo i'w gefnder, George Hay Dawkins (1764-1840), a etifeddodd yr ystâd yn dilyn marwolaeth Arglwyddes Penrhyn ym 1816. Dan arweiniad Dawkins-Pennant, datblygodd ystad y Penrhyn yn un o'r tirfeddiannwyr a'r perchennog chwareli mwyaf pwerus yng ngogledd Cymru.

Sylwadau (0)

Rhaid mewngofnodi i bostio sylw