O Wlân i Siwgr - stori'r prosiect
Eitemau yn y stori hon:
Tîm Cysylltiadau Dysgu Rhyngwladol oedd yn cynnal y prosiect, gydag arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Cefnogwyd yr ymchwil hefyd gan amrywiaeth eang o ymchwilwyr academaidd, cymdeithasau hanes, llyfrgelloedd ac archifau. www.welshplain.cymru
Rhoddodd yr Athro Chris Evans o Brifysgol De Cymru 10 diwrnod o’i amser, a gweithiodd Dr Marian Gwyn, Pennaeth Treftadaeth Race Council Cymru, hefyd ar y prosiectau fel ymgynghorydd, ynghyd â Merfyn Wynn Tomos, Archifydd wedi ymddeol o Ddolgellau, a ymgymerodd ag amrywiaeth o weithgareddau gwirfoddol yn cynnwys llunio’r cyflwyniad am y cysylltiad annisgwyl rhwng gwlân Cymru a’r fasnach gaethweision. Diolch i’r holl Ymchwilwyr Cymunedol Gwirfoddol, ymgynghorwyr y prosiect a’r mudiadau a gymerodd ddiddordeb gweithgar a chefnogol yn yr ymchwil, a diolch yn arbennig i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol am eu help a’u cyngor wrth inni baratoi’r cais ac yn ystod ein gwaith drwy gydol y flwyddyn.